Cyfranogwyr Gwobr Dug Caeredin yn sefyll mewn cae

Mae'r elusen Gwobr Dug Caeredin yn gweithio gyda sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau hanfodol, profiad, hyder a gwydnwch i lywio'n llwyddiannus bywyd fel oedolyn. Isod mae Jessica Rumble, Swyddog Gweithredu gyda Gwobr Dug Caeredin Cymru yn trafod eu Cynnig Cymraeg. 

Y broses 

Cefais sgwrs gydag aelod o’r tîm Hybu am y Cynnig Cymraeg a’r broses, ac yna mynd ati i gwblhau’r holiadur. Roedd hwn yn fan cychwyn gwych i asesu beth oeddem yn ei gynnig yn barod a sut y gallem ddatblygu ein gwasanaethau Cymraeg. Roedd y cynllun datblygu yn fframwaith ar gyfer cynllunio’r datblygiadau hyn, a sicrhau ein bod yn cynnal ein gwasanaethau presennol hefyd.  

Ro’n i’n hoffi bod modd addasu’r cynllun i adlewyrchu ein sefydliad a’n gwaith ni. Er enghraifft mae rhaglen Llysgenhadon Ifanc gennym ni ac roeddem yn awyddus i gynnwys hwn yn rhan o’r cynllun. Roedd cefnogaeth y tîm Hybu yn werthfawr iawn, yn enwedig wrth drafod datblygiadau a llunio targedau. Dwi hefyd yn mynychu cyfarfodydd Rhwydwaith y Gymraeg yn y Trydydd Sector ac mae hwn yn gyfle da i rannu profiadau a syniadau gyda sefydliadau eraill. 

Pwysigrwydd y Cynnig Cymraeg 

Rydym yn falch iawn o’n gwaith ar draws Cymru a’n hymrwymiad at y Gymraeg felly roedd hi’n ddiwrnod cyffrous pan wnaethom ni dderbyn y llythyr yn cadarnhau ein bod ni wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg! 

Ein prif nod yw sicrhau ein bod yn gwneud cymaint â phosib i gefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ifanc i gael cyfleoedd newydd. Mae derbyn y gymeradwyaeth yn rhoi hyder i ni fel sefydliad bod ein cynllun datblygu yn mynd i’n cynorthwyo i gyrraedd y nod yma.  

Rydym ni’n awyddus hefyd i godi proffil ein gwasanaethau Cymraeg fel bod mwy o bobl yn ymwybodol ohonynt. Mae’r Cynnig Cymraeg yn mynd i fod yn help mawr wrth wneud hyn.  

Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth? 

Mae cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin yn annog pobl ifanc i herio’u hunain ac i feithrin hunangred a hunan hyder. Mae’n hollbwysig i ni fod pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn. 

Yn 2022/23 dechreuodd dros 11,000 o bobl ifanc yng Nghymru Wobr Dug Caeredin, gyda chefnogaeth 1,419 o arweinwyr a gwirfoddolwyr ar draws ysgolion, colegau, canolfannau ieuenctid a sefydliadau gwirfoddol. Ry’n ni’n gwybod bod nifer o’n harweinwyr yn cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r bobl ifanc maen nhw’n eu cefnogi. Mae’n bwysig felly bod adnoddau a hyfforddiant Cymraeg ar gael i gefnogi’r holl arweinwyr hyn.  

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, sydd â chyfrifoldebau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o dan safonau’r Gymraeg, ac felly mae cael adnoddau fel deunydd marchnata a chyfathrebu yn y Gymraeg yn bwysig iawn i’r sefydliadau hyn.  

Fel elusen ieuenctid, rydym hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd hyrwyddo’r iaith Gymraeg trwy ein gwaith er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i ymfalchïo yn eu Cymreictod.   

Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith? 

Mae’r cynllun datblygu wedi rhoi ffocws clir i ni o ran cynnal a datblygu ein gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, ac wedi arwain at fwy o sgyrsiau a thrafodaethau am ein gwasanaethau Cymraeg ar draws y tîm yng Nghymru a gyda chydweithwyr ar draws y DU.  

Un peth yr ydym ni’n ymwybodol iawn o nawr yw sicrhau ei bod hi’n hawdd dod o hyd i’n adnoddau Cymraeg ni. Mae adran newydd sbon ar y wefan erbyn hyn ar gyfer ein hadnoddau Cymraeg a Saesneg, er mwyn ei gwneud hi’n haws i ddewis a lawrlwytho adnoddau. Rydym wedi cyflwyno gwasanaethau newydd, fel cynnig o gefnogaeth rhithiol trwy gyfrwng y Gymraeg i ganolfannau newydd, a datblygu hyfforddiant newydd i arweinwyr.  

Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham? 

Yn bendant! Mae wedi bod yn broses fuddiol iawn i ni fel sefydliad, ac rydym wedi elwa o brofiad a chymorth y tîm Hybu trwy fod yn rhan o’r broses. Mae cyngor allanol yn ddefnyddiol ar gyfer cynnig syniadau a phersbectif newydd. Ro’n i’n teimlo bod y ffocws drwy’r broses ar ein cefnogi ni i greu cynllun datblygu sy’n adlewyrchu ein gwaith fel elusen a’n huchelgeisiau ni. 

Pa dri pheth ydych chi'n medru eu cynnig yn y Gymraeg? 

  • Rydym ni’n cefnogi arweinwyr a sefydliadau i gynnig rhaglenni Gwobr Dug Caeredin i’w pobl ifanc trwy ddarparu deunydd marchnata, ystod o adnoddau, a sesiynau rhithiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyfforddiant cychwynnol ar gyfer arweinwyr hefyd ar gael yn y Gymraeg, gyda mwy o hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i ddod yn fuan. 
  • Ry’n ni’n darparu adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi pobl ifanc sy’n ymgymryd â Gwobr Efydd, Arian neu Aur Dug Caeredin. Ar gyfer rhieni a gwarchodwyr, rydym hefyd yn cynnal sesiynau gwybodaeth rhithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â’r Wobr a sut i gefnogi person ifanc i ddechrau, gweithio tuag at a chwblhau Gwobr Dug Caeredin. 
  • Rydym yn annog pobl ifanc sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’n rhaglen Llysgenhadon Ifanc trwy hysbysebu a chyfathrebu am y rhaglen yn ddwyieithog, ac mae’n wych gweld siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ymhlith y grŵp cyfredol o Lysgenhadon Ifanc.