Panel y digwyddiad

Mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam heddiw (Llun, 4 Awst), bydd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg yn amlinellu ei gweledigaeth am y bum mlynedd nesaf tra hefyd yn edrych ymlaen i dymor nesaf Senedd Cymru.  

 

Yn ei chynllun strategol pum mlynedd a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn nodwyd Plant a phobl ifanc, Iechyd a gofal, a Chymraeg yn y gweithle fel tair blaenoriaeth i fynd i’r afael â hwy tan ddiwedd ei chyfnod fel Comisiynydd. Yn fwy diweddar fe wnaeth hefyd gyhoeddi maniffesto â blaenoriaethau clir y mae’n gobeithio y bydd yr holl bleidiau yn barod i’w mabwysiadu cyn etholiad Senedd Cymru yn 2026.  

 

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae cyfnod allweddol o’n blaen o safbwynt yr iaith Gymraeg, 

 

“Rwyf wedi nodi droeon bod fy uchelgais fel Comisiynydd yn mynd y tu hwnt i ddehongliad cul o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonof gan Fesur y Gymraeg, ac rwyf yn awyddus i arwain corff sy’n gwneud mwy ac yn cyfrannu’n fwy sylweddol at waith cynllunio ieithyddol ehangach. 

  

“Mae’r hyn sydd wedi ei amlinellu yn ein cynllun strategol a’n maniffesto yn dangos yn glir y cyfeiriad rydym am ei gymryd a’n huchelgais o ran yr iaith. Rwy’n awyddus i weithio i gryfhau darpariaeth a gwasanaethau Cymraeg yn ein meysydd blaenoriaeth, gan gydweithio’n agos â phartneriaid allweddol. 

 

“Mae wythnos yr eisteddfod yn gyfle i barhau â’r trafodaethau hynny ar gydweithio a gobeithio y caf y cyfle i drafod gyda llawer o’n partneriaid ar y maes.” 

 

Cynhelir y digwyddiad heddiw, (Llun, 4 Awst) ym Mhabell y Cymdeithasau am 11 o’r gloch. Yn ymuno ag Efa i ystyried blaenoriaethau’r Comisiynydd fydd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru a Phrifysgol Wrecsam ynghyd â Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn.  

 

Y cyflwynydd a’r darlledwr Iwan Griffiths fydd yn cadeirio’r digwyddiad. 

 

Yn ôl un o aelodau’r panel, Deio Owen, llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru ac un o ymddiriedolwyr ifanc Urdd Gobaith Cymru, mae angen mynd i’r afael â’r meysydd hyn,  

 

“Mae’n siomedig gweld fod yr ystadegau sydd yn cael eu cyhoeddi’n gyson yn dangos dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Wedi dweud hynny, o mhrofiad i mae agweddau pobl ifanc yn sicr yn gadarnhaol iawn tuag at yr iaith ac mae ymchwil diweddar y Comisiynydd yn cefnogi hynny. Ond dyw hynny ddim gyfystyr â defnyddio’r iaith yn gyson. 

 

“Rwy’n croesawu bwriadau’r Comisiynydd i flaenoriaethu plant a phobl ifanc a hefyd y gweithleoedd gan fod pobl ifanc yn cael mynediad i’r Gymraeg drwy’r cyfnod yn yr ysgol ond beth sydd yn digwydd wedyn pan yn mynd mewn i’r byd gwaith neu wrth barhau a’u hastudiaethau? Rwy’n edrych ymlaen i gyfrannu at y drafodaeth yn yr Eisteddfod a chael cyfle i gyfrannu yn ehangach wrth i’r sgwrs barhau, gobeithio, yn y misoedd sydd i ddod.” 

 

Y pum blaenoriaeth sydd wedi eu cynnig ym maniffesto’r Comisiynydd yw’r canlynol: 

 

  • Dyletswyddau iaith - cynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd drwy ymestyn safonau’r Gymraeg i feysydd blaenoriaeth  

  • Cynllunio ieithyddol cymunedol - ymestyn dylanwad y Comisiynydd drwy gryfhau’r safonau hybu fel fframwaith i gydlynu cynllunio ieithyddol cymunedol dwys  

  • Gweithleoedd - sefydlu uned arbenigol yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd  

  • Gwasanaeth iechyd a gofal clinigol - trawsnewid gofal clinigol yn Gymraeg drwy fuddsoddi a gweithredu’n ddwys mewn meysydd blaenoriaeth  

  • Y gweithlu addysg - sefydlu fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg pum mlynedd fel rhan orfodol o hyfforddi fel athro yng Nghymru  

 

Bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg stondin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ac mae croeso i unrhyw un alw heibio am sgwrs neu i ofyn cwestiwn. Bydd cyfres o weithgareddau yn cael eu cynnal yno drwy’r wythnos. Ewch i’r wefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i wybod mwy am yr hyn fydd yn digwydd. 

_________________

Gallwch ddarllen cynllun strategol y Comisiynydd drwy ddilyn y ddolen hon a gallwch ddarllen y maniffesto drwy ddilyn y ddolen hon.