- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi maniffesto a blaenoriaethau clir y mae’n gobeithio y bydd yr holl bleidiau yn barod i’w mabwysiadu cyn etholiad Senedd Cymru yn 2026. Wrth gydnabod yr heriau ariannol sydd yn parhau i wynebu sefydliadau mae Efa Gruffudd Jones wedi amlinellu pum maes blaenoriaeth allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn nhymor cyntaf y Senedd ar ei newydd wedd.
Mae’r rhain yn cynnwys ymestyn safonau’r Gymraeg i feysydd blaenoriaeth, creu uned arbenigol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a sicrhau hyfforddiant Cymraeg gorfodol ar gyfer y gweithlu addysg.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae cyfnod nesaf y Senedd am fod yn allweddol o ran y Gymraeg,
“Mae fy uchelgais fel Comisiynydd yn mynd y tu hwnt i ddehongliad cul o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonof gan Fesur y Gymraeg, ac rwyf yn awyddus i arwain corff sy’n gwneud mwy ac yn cyfrannu’n fwy sylweddol at waith cynllunio ieithyddol ehangach. O ganlyniad mae’r maniffesto hwn yn gofyn am weithredu ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru, beth bynnag fydd ei lliw, a chefnogaeth i hwyluso gwaith partneriaid allweddol eraill, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg.
“Mae’r blynyddoedd nesaf am fod yn dyngedfennol i’r Gymraeg wrth i Fil y Gymraeg ac Addysg ddod yn weithredol ac wrth i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg hwythau gael eu rhoi ar waith.
“Rwy’n llawn ymwybodol o’r pwysau sydd ar ein sefydliadau cyhoeddus a dyna’r rheswm dros nodi pum blaenoriaeth penodol yn y maniffesto hwn. Maent yn dilyn y llwybr a osodwyd yn ein cynllun strategol ac rwyf yn grediniol fod y rhain yn feysydd lle gellir gwneud y gwahaniaeth i’r defnydd o’r iaith.
“Byddwn yn awr yn awyddus i gynnal trafodaethau gyda’r pleidiau er mwyn cyflwyno ein maniffesto a’n rhesymeg dros nodi ein blaenoriaethau. Y gobaith yw y bydd y pleidiau yn barod i fabwysiadu ein cynigion ac i rheiny gael eu mabwysiadu cyn yr etholiad flwyddyn nesaf.”
Y pum blaenoriaeth sydd wedi eu cynnig yn y maniffesto yw’r canlynol:
- Dyletswyddau iaith - cynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd drwy ymestyn safonau’r Gymraeg i feysydd blaenoriaeth
- Cynllunio ieithyddol cymunedol - ymestyn dylanwad y Comisiynydd drwy gryfhau’r safonau hybu fel fframwaith i gydlynu cynllunio ieithyddol cymunedol dwys
- Gweithleoedd - sefydlu uned arbenigol yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd
- Gwasanaeth iechyd a gofal clinigol - trawsnewid gofal clinigol yn Gymraeg drwy fuddsoddi a gweithredu’n ddwys mewn meysydd blaenoriaeth
- Y gweithlu addysg - sefydlu fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg pum mlynedd fel rhan orfodol o hyfforddi fel athro yng Nghymru
Gallwch ddarllen y maniffesto yn llawn yma.