Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi blaenoriaethau penodol yn ei chynllun strategol diweddaraf er mwyn canolbwyntio ar y materion allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i ffyniant y Gymraeg. Bydd y cynllun pum mlynedd newydd yn para tan ddiwedd cyfnod Efa Gruffudd Jones yn y swydd.

Plant a phobl ifanc, Iechyd a gofal, a Chymraeg yn y gweithle yw’r tair blaenoriaeth sydd wedi eu hadnabod yn y cynllun.  Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd y Comisiynydd yn gweithio i gryfhau darpariaeth a gwasanaethau Cymraeg yn y meysydd hyn, gan gydweithio’n agos â phartneriaid allweddol.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’r cyfnod nesaf yn allweddol i’r iaith,

“Rydym yn byw mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol heriol i’r sector cyhoeddus a nifer o sectorau eraill yng Nghymru. Felly, mae sicrhau bod sefydliadau yn rhoi y Gymraeg wrth galon eu gweithredu yn bwysicach nag erioed.  Rwyf am i ni fod yn sefydliad hyblyg, dychmygus a mentrus dros y cyfnod nesaf.

“Mae gen i a fy swyddfa gyfraniad pwysig i’w wneud i strategaeth genedlaethol

Cymraeg 2050, ac mae’n hanfodol ystyried y cyfraniad hwn ochr yn ochr â gwaith mewn meysydd polisi allweddol fel addysg, a’r strategaethau ehangach ar gyfer hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar lefel genedlaethol, leol a chymunedol.

“Bydd angen cydweithio blaengar rhwng ystod eang o sefydliadau a phartneriaid er mwyn plethu amrywiol elfennau o gynllunio ieithyddol ynghyd. Edrychaf ymlaen at gydweithio ag amryw o bartneriaid i wireddu’r weledigaeth hon.”

Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, fod rhoi pwyslais ar y maes iechyd a gofal cymdeithasol i’w groesawu,

“Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth yn eich dewis iaith yn rhywbeth yr ydyn ni’n credu yn angerddol ynddo. Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gynnal cynhadledd ar yr Iaith Gymraeg ac Urddas mewn Gofal i rannu dysgu ac i ddathlu ymarfer cadarnhaol.

“Mae lle i wella ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a’r sector gofal cymdeithasol i gefnogi’r weledigaeth sy’n cael ei hamlinellu yn y cynllun strategol ac i wella gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.”

Mae Bil y Gymraeg ac Addysg sydd ar daith drwy’r Senedd ar hyn o bryd yn cynnig posibiliadau cryf o safbwynt gwella sgiliau Cymraeg ein plant a’n pobl ifanc yn ein hysgolion ond mae angen sicrhau llwybr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ar ôl iddynt adael yr ysgol.

Mae hyn yn cael ei groesawu gan Dr Mandy James Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru,

“Mae sicrhau bod pobl ifanc yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ar ôl gorffen eu haddysg yn hanfodol. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n hundebau llafur cysylltiol ac aelodau i hyrwyddo’r manteision amlwg o ddatblygu gweithleoedd a sgiliau dwyieithog.

“Mae’r sgiliau yma’n hanfodol i warchod a diogelu swyddi a gweithlu dwyieithog yn ein cymunedau ac ar gyfer creu swyddi newydd.”

I gyd-fynd â’r cynllun newydd mae ffilm newydd wedi ei chynhyrchu sydd yn amlinellu amcanion a blaenoriaethau’r cynllun. Un sydd i’w weld yn y fideo yw Yusef Yassine, disgybl 16 oed yn ysgol Glantaf, Caerdydd, ac roedd yn falch o allu cyfrannu i’r cynllun,

“Rwyf yn defnyddio’r Gymraeg yn gyson yn yr ysgol ond mae angen mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned tu allan i’r ysgol ac yn y byd gwaith. Rwy’n falch o weld pobl ifanc yn cael lle amlwg yn y cynllun, a gobeithio y gallaf i a fy ffrindiau barhau i ddefnyddio’r iaith yn ein bywyd bob dydd.”

Mae Efa Gruffudd Jones yn aml yn pwysleisio fod plant a phobl ifanc yn greiddiol i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw sydd i’w chlywed yn gyson ar lawr gwlad.

Gan groesawu’r ffocws ar blant a phobl ifanc, dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru,

"Mae iaith a hunaniaeth yn rhai o hawliau sylfaenol plant. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth gydag Efa i sicrhau bod yr hawliau hyn yn dod yn realiti i genhedlaeth o blant a phobl ifanc yng Nghymru."

Mae’r cynllun ei hun hefyd yn amlinellu sut y bydd y Comisiynydd yn defnyddio pwerau rheoleiddio yn ogystal â gwaith hybu, dylanwadu a chyfathrebu er mwyn ceisio gwireddu’r amcanion a’r nodau uchelgeisiol.

Gallwch ddarllen y Cynllun Strategol yn llawn drwy ddilyn y ddolen hon.