Defnyddia dy Gymraeg logo

Annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg ymhob sefyllfa yw nod ymgyrch Comisiynydd y Gymraeg ac mae rhai o sȇr amlycaf Cymru yn cynnig eu cefnogaeth eleni. Mae’r ymgyrch, sydd yn dwyn y teitl, Defnyddia dy Gymraeg, yn annog pawb i ddefnyddio eu Cymraeg wrth fyw eu bywydau bob dydd.   

Eleni bydd ffocws arbennig ar faes iechyd a gofal yn yr ymgyrch. Er mwyn hybu hyn mae ffilmiau wedi eu creu yn amlygu pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg mewn cartrefi gofal ac wrth ofalu am bobl ifanc bregus. 

Mae Rachael, Non ac Emma o'r grŵp poblogaidd Eden hefyd yn cefnogi’r ymgyrch ac mae cyfle i chi wrando ar bodlediad gyda'r dair ohonynt yn sôn am eu profiadau wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod eu bywydau a’u gyrfaoedd.  

Y Gymraeg mewn maes gofa

Mae Elain Fflur Morris yn uwch weithiwr gofal yng Nghartref Bryn yr Eglwys yng Nghonwy ac eleni hi oedd enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024 a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.  

Dywedodd Elain, 

“Mae canran mawr o'n preswylwyr ni yn Gymraeg iaith gyntaf felly mae’n pwysig ein bod yn parchu hynny ac yn sicrhau eu bod yn medru cyfathrebu yn eu dewis iaith. Rwy’n grediniol fod hynny yn eu helpu i ymlacio ac yn ei gwneud yn haws iddynt gyfleu unrhyw bryderon neu broblemau iechyd sydd ganddynt. 

“Rwyf hefyd yn ceisio dylanwadu ar weithwyr newydd yn y cartref i werthfawrogi pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg. Mae nifer o'r rhain yn dod atom o wledydd tramor ac yn siarad sawl iaith eisoes felly yn deall yr angen i fedru cyfathrebu drwy’r Gymraeg.  

“Mae’n bwysig annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac rwy’n falch o allu cefnogi’r ymgyrch bwysig hon.”  
 
Blaenoriaethau cynllun strategol 

Mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, newydd gyhoeddi ei chynllun strategol drafft am y bum mlynedd nesaf ac mae’r defnydd o’r Gymraeg mewn rhai meysydd penodol wedi cael ei nodi fel blaenoriaeth ganddi, 

“Wrth baratoi’r cynllun strategol rwyf wedi nodi tri maes blaenoriaeth penodol sef iechyd a gofal, plant a phobl ifanc, a’r Gymraeg yn y gweithle. Rwy’n teimlo fod rhain yn feysydd allweddol lle mae angen i’r Gymraeg gael ei hyrwyddo, ei datblygu a’i defnyddio’n gyson. Dyma lle bydd ffocws ein gwaith felly am y cyfnod nesaf. 

“Mae ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg yn ategu yn naturiol at y nodau hyn ac mae’n braf gweld cymaint o’n rhanddeiliaid yn cyfrannu’n adeiladol ac ymarferol wrth gefnogi’r ymgyrch.” 

Cefnogaeth cantorion amlwg  

Eleni mae Defnyddia dy Gymraeg wedi derbyn cefnogaeth gan un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru gydag aelodau Eden yn recordio podlediad lle mae nhw yn adlewyrchu ar eu profiadau nhw gyda'r Gymraeg. 

Yn ôl Rachael Solomon, un o'r aelodau, mae’r gallu gan y Gymraeg i ehangu gorwelion, 

“Saesneg oeddan ni'n siarad adra - gyda Dad yn Gymro a Mam yn dod o Lerpwl. Cytunodd mam i ni gael addysg Gymraeg felly yr ysgol gynigiodd y profiadau cyntaf o'r Gymraeg i fi ac fe fyddai wastad yn ddiolchgar am y penderfyniad i anfon fi i dderbyn addysg Gymraeg.  

“Ers hynny mae’r Gymraeg wedi bod mor bwysig i fi, yn fy mywyd personol a fy ngyrfa a byddai’n od iawn bellach peidio a’i defnyddio.” 
   
Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #DefnyddiaDyGymraeg neu fynd i wefan comisiynyddygymraeg.cymru lle gallwch lawrlwytho nifer o adnoddau gan gynnwys podlediad Eden. Mae’r ymgyrch yn cychwyn heddiw (25 Tachwedd) ac yn para tan y 9fed o Ragfyr.