- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Heddiw (6 Awst) ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bydd Comisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r nod o gynyddu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae cynllun Cynnig Cymraeg y Comisiynydd yn rhoi cyfle i unrhyw gwmni neu elusen nad ydynt yn dod o dan Safonau’r Gymraeg i ddangos eu hymrwymiad i’r iaith drwy ddatblygu cynlluniau penodol. Mae dros 120 wedi derbyn y gymeradwyaeth eisoes, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, Principality a’r archfarchnadoedd Aldi a Lidl.
Ac o hyn ymlaen, bydd y rhai sydd yn derbyn y Cynnig Cymraeg hefyd yn cael ymuno â chynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Nod y cynllun yw cynyddu sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd, trwy deilwra rhaglen o hyfforddiant perthnasol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cynnal awdit o sgiliau Cymraeg gweithwyr, cyn i’r Ganolfan lunio pecyn o hyfforddiant Dysgu Cymraeg addas – o gyrsiau blasu a chyrsiau hunan-astudio, i gyrsiau dwys a chyrsiau magu hyder.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae hyn yn gam pwysig pellach wrth geisio cynyddu defnydd o'r Gymraeg. Meddai: “Mae cynllun y Cynnig Cymraeg wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth roi cyfle i sefydliadau amlygu eu hymrwymiad i’r iaith ond mae angen i ni ystyried beth yn fwy allwn ni wneud i’w cynorthwyo. Mae cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd yn flaenoriaeth i ni, ac mae’r bartneriaeth hon gyda’r Ganolfan yn caniatáu i ni gynnig cyrsiau penodol, wedi eu teilwra i weithleoedd, a hynny wedi eu hariannu’n llawn.
“Yn ddiweddar cyhoeddwyd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) a fydd yn anelu at gynyddu sgiliau Cymraeg ein pobl ifanc yn ein hysgolion. Ond mae angen sicrhau hefyd fod cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg wrth fynd i’r byd gwaith. Dyna yw’r gobaith gyda’r cynllun hwn ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’w weld yn datblygu ac yn dwyn ffrwyth yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”
Mae 2,000 o gyflogwyr yn barod wedi elwa ar gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan, gyda rhaglenni penodol wedi’u creu ar gyfer y byd Iechyd a Gofal a Chwaraeon, ymhlith sectorau eraill.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Dan ni’n falch iawn o gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i atgyfnerthu’r Cynnig Cymraeg ac ymestyn y cynllun Cymraeg Gwaith i gynulleidfaoedd newydd.
“Mae Cymraeg Gwaith wedi tyfu ar raddfa gyflym, gydag arlwy gyfoethog o ddarpariaeth sector-benodol sy’n cefnogi gweithluoedd i gael mynediad at raglenni dysgu a chodi hyder fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd.
“Yn ddiweddar, mae Estyn wedi canmol y cynllun, a’r ffordd y mae’r Ganolfan yn gweithio gyda’i phartneriaid i ddenu cynulleidfaoedd newydd at y Gymraeg.
“Mae’r datblygiad diweddaraf yma’n enghraifft o’r cydweithio strategol sy’n nodweddiadol o waith y Ganolfan, wrth i ni gynllunio’n ieithyddol er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau.”
Derbyniodd Undeb Rygbi Cymru y Cynnig Cymraeg flwyddyn yn ôl ac ymuno â chynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan tua’r un pryd. Mae hynny wedi bod yn fanteisiol meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru,
“Mae ystyried a hyrwyddo'r Gymraeg yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl. Ers derbyn y Cynnig Cymraeg ychydig dros flwyddyn yn ôl rydym wedi mynd ati i wella ein darpariaeth a'n gwasanaethau ac wedi croesawu unrhyw gyfleoedd newydd i hyrwyddo'r iaith.
“Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg i ddarparu ystod o hyfforddiant i’n staff. Mae’r bartneriaeth newydd yma i’w chroesawu a byddwn yn annog unrhyw sefydliad sydd yn derbyn y Cynnig Cymraeg i fanteisio ar y gefnogaeth.”
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg fan hyn.