Owen, Efa a Manon yn yr Eisteddfod

Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw ym Meifod (29 Mai) caiff sioe lwyfan newydd ei dangos a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg i bobl ifanc ledled Cymru. Manon Steffan Ros sydd wedi creu’r sioe Geiriau i gwmni Mewn Cymeriad yn dilyn comisiwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. 

Bydd y sioe, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 ysgolion uwchradd, yn cyd-fynd â phecyn addysg newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Comisiynydd ac a fydd ar gael ar lwyfan addysgol, Hwb. 

Yn ôl Manon Steffan Ros, roedd yn braf derbyn y cais i wneud y gwaith hwn er yn un heriol, 

“Er mwyn hybu’r Gymraeg i’n pobl ifanc a’u hannog i’w defnyddio mae angen manteisio ar amryw o ffyrdd i wneud hynny. Mae sioe lwyfan, sydd yn mynd mewn i ysgolion, yn gyfle gwych i bwysleisio rôl y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, drwy ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes a iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw. 

“Roedd yn her, serch hynny, i ddatblygu sgript a oedd yn cyfleu yr holl elfennau yma, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo’r neges gyffredinol fod angen defnyddio’r Gymraeg er mwyn iddi oroesi.  

“Gobeithio bydd y sioe yn gyfrwng i arwain at drafodaeth bellach ymysg pobl ifanc a’u hathrawon am bwysigrwydd y Gymraeg.” 

I gyd-fynd â’r sioe, mae pecyn addysg wedi ei greu hefyd sydd yn cynnig amryw ddeunyddiau ar gyfer gwersi. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniadau ac atodiadau sydd yn rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, ei phwysigrwydd fel sgil mewn bywyd bob dydd, ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd, yn ogystal ag egluro rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones., Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw fod y gwaith hyn yn ymateb i angen, 

“Rwyf wedi nodi yn aml fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i fi ac rydym yn gyson yn derbyn ceisiadau gan ysgolion am wybodaeth am ein gwaith. Y nod gyda’r pecyn hwn yw cynnig pecyn ymarferol y gellir dewis gweithgareddau ohono. 

“Bydd hefyd, gobeithio, yn gymorth i athrawon a ddisgyblion ddeall yn well, nid yn unig rôl Comisiynydd y Gymraeg ond sefyllfa’r Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.  

“Gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n eang.”   

Un ysgol sydd wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes yw Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn nalgylch yr Eisteddfod. Mae Nansi Lloyd yn mlwyddyn 7 ac fe wnaeth fwynhau yn fawr, 

“Roedd y sioe yn symud yn gyflym oedd yn grêt ac roeddem i gyd yn meddwl fod y defnydd o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dda iawn. Fe wnaeth i fi feddwl am pam mod i’n siarad Cymraeg a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad yr iaith yn naturiol bob dydd, ac nid yn yr ysgol yn unig.  

“Rwy’n gobeithio mynd i’w gweld eto yn yr Eisteddfod.” 

Mae Alaw Jones yn athrawes yn ysgol Bro Hyddgen ac yn gweld gwerth yn y sioe a’r pecyn addysg, 

“Mae yn medru bod yn heriol cyflwyno’r Gymraeg yn enwedig mewn oes lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor flaenllaw yn mywydau pobl ifanc. Roedd y sioe hon yn gyfrwng i arwain ar drafodaeth bellach am y Gymraeg yn ein cymdeithas heddiw a braf oedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r sioe. 

“Mae’r pecyn addysg yn adnodd defnyddiol a fydd yn ein caniatáu i drafod y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach, cyd-destun rhyngwladol, ac yn pwysleisio manteision siarad yr iaith o safbwynt sgil yn y byd gwaith.” 

Caiff y sioe, Geiriau¸ ei pherfformio ar stondin Llywodraeth Cymru am 2pm ar ddydd Mercher, 29 Mai a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Manon Steffan Ros ac Owen Alun sydd yn perfformio’r sioe.