Sir Gaerfyrddin 

Mae Eisteddfod yr Urdd bron yma ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn Llanymyddyfri am yr wythnos a gobeithio y cawn gyfle i sgwrsio â llawer ohonoch ar ein stondin. 

Byddwn yno o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac yn ychwanegol i’r cyfleoedd bob dydd i chi ddod i siarad gyda’r staff, rhyngweithio gyda’n map enwau lleoedd a gofyn unrhyw gwestiynau bydd ganddon ni weithgareddau arbennig hefyd a nifer yn cael eu cynnig gan ein partneriaid a rhai sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg. 

Ddydd Mawrth (30 Mai) bydd Clybiau Plant Cymru yn ymuno â ni ar y stondin i gynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog gan gynnwys helfa drysor a fydd yn rhoi cyfle i ni ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru! Bydd hefyd her Lego ryfeddol a gemau parasiwt wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer plant yn Eisteddfod yr Urdd! 

Yna ar ddydd Gwener, 2 Mehefin, bydd Gwobr Dug Caeredin yn ymuno â ni, corff sydd newydd fod yn llwyddiannus yn derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg. Llongyfarchiadau iddyn nhw a chofiwch ddod i weld yr amryw weithgareddau y byddant yn eu cynnal. 

Byddwn yn gwneud rhai cyhoeddiadau pwysig yn ystod yr wythnos hefyd. Am 11 o’r gloch fore Iau (1 Mehefin) bydd y Comisiynydd Plant yn ymuno â ni i wneud cais ar y cyd i wella’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ein system addysg ar gyfer rheiny sydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yna ar ddydd Gwener, 2 Mehefin am 1 o’r gloch byddwn yn croesawu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i’n stondin i lansio cynllun newydd sydd yn anelu at gasglu geirfa pobl ifanc. Y nod yn y pen draw yw creu storfa newydd o eiriau ac ymadroddion Cymraeg sydd yn cael eu defnyddio’n gyson gan bobl ifanc ar draws Cymru. Dewch draw i gyfrannu eich syniadau! 

Rhywbeth at ddant pawb felly beth am alw draw i’n gweld – bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.