- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn agosau ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod ym Mhontypridd am yr wythnos. Gobeithio y cawn gyfle i sgwrsio â llawer ohonoch ar ein stondin.
Yn ychwanegol i’r cyfleoedd bob dydd i chi ddod i siarad gyda’r staff, rhyngweithio gyda’n map enwau lleoedd a gofyn unrhyw gwestiynau, bydd ganddon ni weithgareddau arbennig hefyd ar y stondin ac o gwmpas y maes.
Mewn digwyddiad ar fore Llun, 5 Awst am 11 yn y Cymdeithasau, bydd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio yn amlinellu gweledigaeth y Comisiynydd ar gyfer y cyfnod nesaf. Bydd yn trafod y dull o gyd-reoleiddio, ynghyd â’r bwriad i gyflwyno deilliannau sy’n cynrychioli nodau ac amcanion cyffredin Comisiynydd y Gymraeg, sefydliadau cyhoeddus a defnyddwyr y Gymraeg.
Yn ymuno ag Osian bydd cynrychiolwyr o Gyngor Rhondda Cynon Taf, Grŵp Llandrillo Menai a Bwrdd Iechyd Cwm Taf ynghyd â Chomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones.
Yna, ddydd Mawrth, 6 Awst am 12 ar stondin y Comisiynydd byddwn yn cyhoeddi partneriaeth newydd rhyngom ni a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Nod y bartneriaeth fydd annog y sefydliadau hynny sydd yn derbyn y Cynnig Cymraeg i fanteisio ar wersi Cymraeg gan y Ganolfan er mwyn cynyddu’r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
Brynhawn dydd Iau, 8 Awst am 2 o'r gloch, ar ein stondin byddwn yn cyhoeddi ein helusen swyddogol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Drwy gydol yr wythnos bydd amrywiaeth o weithgareddau a nifer yn cael eu cynnig gan ein partneriaid a rhai sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg.
Ddydd Mawrth, 6 Awst bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn cynnig sesiynau theatrig ac ar ddydd Mercher, 7 Awst bydd gwasanaeth Helo Blod wrth law i gynnig cefnogaeth i fusnesau ac elusennau sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg.
Os ydych am ymlacio rhywfaint ynghanol yr holl gyffro eisteddfodol bydd elusen Tenovus yn cynnal sesiynau meddwlgarwch ar y bore Mercher ac Iau ac ar ddydd Gwener, 9 Awst bydd Canolfan Bedwyr yn cynnig cyfle i chi ddysgu am ap newydd sbon ARFer sydd â’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Gallwch weld ein holl weithgareddau ar gyfer yr wythnos yma.
Rhywbeth at ddant pawb, felly beth am alw draw i’n gweld – bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.