- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru i weithrediad diwygiadau addysg yng Nghymru mae Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi’r prif heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector o safbwynt y Gymraeg.
Yma mae Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg, yn amlinellu’r prif bwyntiau.
Mae gweledigaeth gyffrous wedi cael ei chyflwyno ar gyfer dyfodol pobl ifanc yng Nghymru. Un o amcanion y Cwricwlwm i Gymru yw cefnogi pob dysgwr i allu cyfathrebu’n effeithiol drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Yn fwy diweddar fe basiwyd Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 sy’n gosod y nod uchelgeisiol o sicrhau fod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol.
Yn ein cynllun strategol pum mlynedd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, rydym yn nodi plant a phobl ifanc fel blaenoriaeth glir er mwyn sicrhau twf a datblygiad yr iaith yn y tymor hir. Mae gan y byd addysg felly, botensial enfawr i drawsnewid dyfodol ieithyddol ein pobl ifanc a’n cymdeithas er gwell.
Ond mae yna heriau sylweddol i wireddu’r potensial hwn sy’n bygwth llwyddiant strategaeth Gymraeg arloesol Llywodraeth Cymru. Rydym yn gyson yn derbyn galwadau a gohebiaeth gan rieni, disgyblion ac athrawon yn nodi eu pryderon am y ddarpariaeth yn eu hardaloedd. Mae’r rhain yn amrywio o le’r Gymraeg yn y cwricwlwm i ddarpariaeth cymwysterau, i anawsterau teithio wrth geisio derbyn addysg Gymraeg.
Yn ein hymateb rydym wedi nodi meysydd penodol sydd angen sylw sef:
- Cynllunio twf addysg cyfrwng Cymraeg
- Y Gymraeg yn y cwricwlwm newydd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
- Y Gymraeg fel pwnc safon uwch
- Pwysigrwydd datblygu gweithlu addysg gynyddol ddwyieithog
Ein nod, drwy gyflwyno’r ymateb hwn, yw amlygu’r heriau sydd angen eu goresgyn ar fyrder os ydym am gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg yn y sector addysg.
Bydd datrys yr heriau hyn yn hanfodol os ydym am gyflawni amcanion clodwiw Deddf y Gymraeg ac Addysg. Er mwyn gwneud hynny mae’n allweddol fod awdurdodau lleol, ysgolion, a’r gyfundrefn addysg yn ei chyfanrwydd yn cydweithio.
Gobeithio y bydd rhain yn faterion y bydd yn cael eu blaenoriaethu yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Gallwch ddarllen ein hymateb yn llawn drwy ddilyn y ddolen hon.