Hyrwyddo Gwasanaethau Sefydliadau Cyhoeddus
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw rheoleiddiwr cydraddoldeb a hawliau annibynnol Prydain, sef sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI) â ‘Statws A’ achredwyd gan y Cenhedloedd Unedig.
- Rôl y Comisiwn yw sicrhau bod Prydain yn lle tecach drwy orfodi a chynnal cyfreithiau sy’n amddiffyn hawl pawb i degwch, urddas a pharch.
- Drwy eu gwasanaethau digidol ac ar lein, mae modd i unigolion gael mynediad at wybodaeth am hawliau dynol a chydraddoldeb yn Gymraeg.
- Mae modd i unigolion defnyddio’r ‘Traciwr Hawliau Dynol’ i olrhain perfformiad llywodraethau Cymru a’r DU yn ei iaith ddewisol.
- Ceir cyhoeddiadau ac adroddiadau ar wefan ddwyieithog y Comisiwn.
Comisiwn Elusennau
- Y Comisiwn Elusennau yw rheoleiddiwr a chofrestrydd elusennau y Deyrnas Unedig.
- Drwy eu porth ar-lein “Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau”, mae modd i unigolion a chymdeithasau gofrestru gyda’r Comisiwn, gwneud cais a derbyn canllawiau yn Gymraeg.
- Mae modd i ddefnyddwyr ystyried canllawiau 5 munud ar gyfer staff ac ymddiriedolwyr elusennau yn eich iaith ddewisol.
- Cynorthwyo i sicrhau bod penderfyniadau, rheoli cyllid a diogelu pobl yn cael eu cefnogi’n llawn yn Gymraeg.
- Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys cyngor ar wneud penderfyniadau fel ymddiriedolwr, gwrthdaro buddiannau, rheoli cyllid a diogelu pobl.
- Mae modd gwneud cais i gofrestru elusen yn y Gymraeg ar wefan y Comisiwn.
Comisiwn Ffiniau i Gymru
- Drwy eu gwasanaethau digidol ac ar lein, mae modd cysylltu â’r Comisiwn yn Gymraeg dros y ffôn ar 02920464819, e-bost ymholiadau@cdffc.llyw.cymru neu drwy’r wefan ar www.cdffc.llyw.cymru.
- Atebir pob galwad ffôn yn Gymraeg yn gyntaf, ac mae cyfathrebu drwy e-bost a’r wefan yn gwbl ddwyieithog.
- Mae modd i unigolion ymateb i ymgynghoriadau yn Gymraeg drwy’r porth www.arolygoncymru.cymru
- Mae’r Comisiwn yn sicrhau bod pob cyswllt â’r Comisiwn yn cael ei drin yn gyfartal waeth beth fo’r iaith.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd yng Nghymru.
- Mae’r Gronfa wedi dyfarnu bron £4 miliwm i sefydliadau sy’n hybu’r Gymraeg mewn cymunedau yn Nghymru.
- Drwy eu gwasanaethau, mae modd gwneud cais a derbyn cymorth wrth ymgeisio am arian gan y Gronfa yn Gymraeg.
- Mae modd cysylltu â staff dwyieithog y Gronfa sy’n asesu ac yn rheoli grantiau ar gyfer grwpiau Cymraeg eu hiaith.
- Cynorthwyo i sicrhau bod deunyddiau ymgeisio ar gael yn ddwyieithog.
Cyfoeth Naturiol Cymru
- Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig gwasanaeth dwyieithog 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos am ddigwyddiadau amgylcheddol dros y ffon neu ar lein.
- Darperir cyngor ar lygredd, negeseuon cyhoeddus a diweddariadau amgylcheddol yn ddwyieithog.
- Mae eu gwasanaethau rhybuddion llifogydd, e-recriwtio a negeseuon cyhoeddus ar gael yn llawn drwy’r Gymraeg.
- Mae eu gwefan, dogfennau cyngor a gwybodaeth amgylcheddol yn ddwyieithog.
- Mae modd cofrestru am ddim i dderbyn rhybuddion llifogydd amserol yn Gymraeg drwy ffôn, neges destun neu e-bost
- Mae modd gwneud cais am swydd yn ddwyieithog. Hysbysebir swyddi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddwyieithog. Mae croeso i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais yn Gymraeg neu Saesneg.
Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
Drwy eu gwasanaethau ar-lein ac ap CThEF, mae modd i ddefnyddwyr:
- Derbyn gwybodaeth am dreth, Yswiriant Gwladol a budd-daliadau yn Gymraeg.
Wrth lawrlwytho’r ap CThEF mae modd i unigolion ddefnyddio’r gwasanaeth Hunanasesiad yn llawn drwy’r Gymraeg. - Mewngofnodi i wasanaethau treth personol, TAW, TWE, Treth Gorfforaeth a budd-daliadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Darllen canllawiau a ffurflenni treth yn Gymraeg, gan gynnwys trosolwg Hunanasesiad.
- Cael mynediad at wasanaethau Cymraeg gan gyrff eraill ar GOV.UK drwy dudalen benodol sy’n cynnwys dolenni i wasanaethau Cymraeg.
Cyngor Abertawe
- Derbynnir gohebiaeth a negeseuon yn ddwyieithog gan y Cyngor. Mae hefyd modd cofrestru i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg gan y Cyngor.
- Drwy eu strategaeth iaith, mae modd gweld sut mae’r Cyngor yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg rhwng 2024–2029.
- Mae gwefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am addysg cyfrwng Cymraeg o fewn y Sir.
- Mae modd cyrchu gwybodaeth ac ystadegau am sgiliau Cymraeg y boblogaeth leol ar wefan y Cyngor.
Cyngor Bro Morgannwg
- Darperir amrywiaeth eang o wasanaethau gan y Cyngor yn Gymraeg. Ceir mwy o fanylion am y gwasanaethau yma ar wefan y Cyngor.
- Drwy eu porth cwsmeriaid, mae modd gwneud cais am drwyddedau, rhoi gwybod am broblemau neu ofyn a chofrestru am wasanaethau yn Gymraeg.
- Mae hefyd modd i unigolion gymryd rhan mewn ymgynghoriadau cyhoeddus drwy’r platfform digidol ‘Cymryd Rhan y Fro’ yn Gymraeg.
- Darperir adnoddau ychwanegol i blant yng Nghanolfan Trochi’r Iaith Gymraeg sydd yn cefnogi plant 4–11 oed i lwyddo mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gwasanaeth Rheoli Gwastraff
- Mae’r tîm Rheoli Gwastraff yn sicrhau bod trigolion yn medru defnyddio’r gwasanaeth yn Gymraeg.
- Mae'r holl wybodaeth am wastraff ac ailgylchu (e.e. calendr casgliadau biniau, ffurflen casgliadau a gollwyd, canllawiau ailgylchu) ar gael yn Gymraeg.
- Gall trigolion gysylltu â’r gwasanaeth yn ddwyieithog dros y ffôn, ar-lein neu’n bersonol. Mae staff Cymraeg eu hiaith ar gael i gynorthwyo gyda ceisiadau sy’n ymwneud â gwastraff ac ailgylchu neu unrhyw ymholiad am y gwasanaeth rheoli gwastraff.
Gwasanaethau Cwsmer
- Mae’r Ganolfan Gyswllt yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid eang yn Gymraeg ar draws pob sianel gyswllt.
- Mae’r ganolfan yn gweithredu fel eiriolwr i’r cwsmer ac yn ymgynghori ag adrannau eraill ar eu rhan yn ôl yr angen.
- Mae gwasanaeth llawn ar gael yn ddwyieithog dros y ffôn, y we a thrwy e-bost.
Blynyddoedd Cynnar
- Mae’r gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi’r Gymraeg o ddechrau taith plentyn.
- Mae’n darparu sylfaen gadarn yn y Gymraeg drwy raglenni megis Dechrau’n Deg, Cylchoedd Meithrin a grwpiau Ti a Fi.
- Mae dros 20 o ddarparwyr gofal plant cyfrwng Cymraeg yn gweithredu o fewn y cynllun yn ardal y Cyngor.
- Mae aelodau o’r tîm sy’n siarad Cymraeg yn cefnogi teuluoedd yn ddwyieithog ac yn hyrwyddo’r iaith yn eu gwaith dyddiol.
- Mae’r tîm yn cynnal digwyddiadau ‘Hâf o Hwyl’ Cymraeg sy’n dathlu’r iaith drwy chwarae, cerddoriaeth ac adrodd straeon, gan feithrin hyder ymysg plant a rhieni.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot
- Darperir amrywiaeth eang o wasanaethau Cymraeg gan y Cyngor. Ceir mwy o fanylion am y gwasanaethau sydd ar gael ar wefan y Cyngor.
- Mae modd i unigolion gysylltu â’r Cyngor yn Gymraeg gyda’r gwasanaeth ffôn yn sicrhau bod modd derbyn gwasanaeth Cymraeg wrth gysylltu.
- Mi all preswylwyr ddefnyddio’r cyfrif “myNPT” yn Gymraeg, gan gynnwys hysbysiadau, ffurflenni a chyfathrebu. Mae hefyd modd cofrestru i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg gan y Cyngor trwy’r gwasanaeth yma.
- Mae modd tanysgrifio i gylchlythyr preswylwyr ‘Newyddion CnPT/NPT News’ am fersiynau Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Ceir manylion am amrywiaeth eang o wasanaethau Cymraeg y Cyngor ar wefan y Cyngor ar www.bridgend.gov.uk
- Drwy eu gwasanaethau ar-lein, mae modd cofrestru a gweld gwybodaeth a thaflenni am y gyllideb a chyllido a borth treth y cyngor a threthi busnes yn Gymraeg.
- Ceir manylion a gwybodaeth am ysgolion, derbyniadau, dyddiadau tymor a phrydau ysgol yn Gymraeg.
- Mae modd cysylltu yn uniongyrchol gyda’r Cyngor i nodi unrhyw broblem am wasanaethau’r Cyngor drwy ffurflenni Cymraeg.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Ceir manylion llawn am holl wasanaethau Cymraeg y Cyngor ar brif wefan y Cyngor sef www.rctcbc.gov.uk
- Mae’r Cyngor yn cynnig Cynllun Gwarantu Cyfweliad i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ar lefel 3 neu uwch. Mae manylion y Cynllun i’w gweld ar wefan y Swyddi’r Cyngor ar [cynnwys dolen]
- Mae modd i breswylwyr ddefnyddio map rhyngweithiol i ddod o hyd i ddigwyddiadau Cymraeg yn ei hardal. Nodir digwyddiadau megis boreau coffi, gigs byw, nosweithiau cymdeithasol a mwy. Ceir mwy o fanylion ar [cynnwys dolen].
- Mae gwasanaeth llyfrgelloedd y Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o eLyfrau ac eLyfrau llafar Cymraeg drwy BorrowBox.