Nodiadau
Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes i’w argymhellion.
Mae rheolau orgraff y Gymraeg yn deddfu mai'r gytsain b ddylai ddilyn s, nid y gytsain p. Nid yw'n hawdd clywed y gwahaniaeth rhwng y cyfuniad sp a'r cyfuniad sb ar lafar fodd bynnag (cymharer ysbyty/yspyty).
