- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mewn ymateb i benodiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg,
“Rwy’n croesawu apwyntiad Mark Drakeford AS fel Ysgrifennydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef yn ogystal â’i gyd ysgrifenyddion yn y Cabinet.
“Yn dilyn ei gyfnod hir yn Llywodraeth Cymru mae yn llawn ymwybodol o'r heriau a’r cyfleoedd sydd yn wynebu’r iaith.
“Mae’r misoedd a’r blynyddoedd sydd o’n blaen yn rhai allweddol i’r Gymraeg wrth i Fil Addysg a’r Gymraeg fynd drwy’r Senedd, wrth ystyried argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac wrth i fwy o gyrff ddod o dan Safonau’r Gymraeg.
“Edrychaf ymlaen at drafodaethau adeiladol a phwrpasol gyda’r Ysgrifennydd er mwyn symud ymlaen gyda’n gilydd i ddiogelu a hyrwyddo’r Gymraeg yn effeithiol i’r dyfodol.”