- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Mae staff Comisiynydd y Gymraeg wedi codi dros £1,600 i Macmillan er cof am Aled Roberts.
Gydol fis Mai, cymerodd staff y Comisiynydd ran mewn her gerdded, rhedeg a beicio 3,000 o filltiroedd. Yn y diwedd, llwyddwyd i gwblhau dros 4,700 o filltiroedd.
Bu farw Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fis Chwefror eleni tra roedd dal yn ei swydd. Dymuniad ei deulu oedd codi arian i wasanaethau Cymraeg cymorth gancr Macmillan er cof amdano.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: ‘Fel cydweithwyr, roedden ni’n teimlo’r angen i wneud rhywbeth positif i gofio am Aled a chodi arian at achos oedd yn agos at ei galon. Rydym wedi cydweithio’n agos â Macmillan Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddynt ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg, a gobeithiwn y bydd yr arian yn eu helpu i ehangu eu darpariaeth Gymraeg ymhellach. Diolch yn fawr i bawb wnaeth ein noddi.’
Mae gwasanaethau Cymraeg Macmillan Cymru yn cynnwys:
- Gwybodaeth am gancr drwy gyfrwng y Gymraeg
- Llinell gymorth Gymraeg
- Gwasanaethau dwyieithog mewn canolfannau cefnogol ar draws Cymru
- Gohebiaeth a deunyddiau marchnata dwyieithog.
Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Macmillan yng Nghymru: ‘Roeddem, ym Macmillan, mor drist i glywed am farwolaeth Aled Roberts ar ôl gweithio mor agos gyda fe a’i dîm dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn ddiolchgar iawn bod teulu Aled wedi dewis codi arian ar gyfer ein gwasanaethau cyfrwng Cymraeg er cof amdano, a bod ei gydweithwyr nawr yn codi arian at y gronfa.’
Gellir cyfrannu at y gronfa drwy ddilyn y ddolen yma: Er cof am Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg (macmillan.org.uk)