Car glas

Mae siaradwyr Cymraeg yn wynebu anghyfiawnder os ydynt eisiau sefyll eu profion gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn adroddiad newydd ar sail ymchwiliad i weithrediad Cynllun Iaith Gymraeg yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), mae’r Comisiynydd yn dod i’r casgliad bod yr asiantaeth yn gweithredu’n groes i’w ymrwymiad i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Methodd y DVSA ar sail y tri mater canlynol:

  • Roedd y ganran o brofion gyrru cyfrwng Cymraeg a gafodd eu canslo bron i dair gwaith yn uwch na’r ganran o brofion cyfrwng Saesneg a gafodd eu canslo.
  • Roedd yn rhaid aros pum i chwe wythnos yn hirach cyn sefyll prawf gyrru ymarferol yn y Gymraeg o’i gymharu â’r Saesneg.
  • Os yw unigolyn eisiau gwneud cais i sefyll prawf gyrru ymarferol drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n rhaid iddo nodi bod ganddo ‘ofynion arbennig’.

Mae Cynllun Iaith y DVSA, a luniwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn nodi y bydd ‘yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal’, bod ‘profion gyrru yn y Gymraeg ar gael ym mhob canolfan profi […] yng Nghymru’, a bod ‘safon ac ansawdd ein gwasanaethau yn gyson ledled Cymru’. Noda hefyd y ‘bydd ymgeiswyr yn gallu dewis cymryd prawf ymarferol yn y Gymraeg ar adeg archebu a byddwn yn darparu arholwr sy’n siarad Cymraeg.’

Penderfynodd y Comisiynydd gynnal ymchwiliad wedi iddo ddod yn ymwybodol o nifer o negeseuon ar wefannau cymdeithasol ym mis Medi 2019 am bryderon ynghylch argaeledd profion gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth gyhoeddi ei adroddiad, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: ‘Mae yna ddeng mlynedd ers i Senedd Cymru basio deddf yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a sefydlu’r egwyddor o hawliau i ddefnyddio’r iaith. Ond, fel mae’r achos hwn yn ei brofi, mae yna dal lawer iawn gormod o eithriadau sy’n tanseilio’r amcanion hyn. Daeth yn amlwg wrth i mi gynnal yr ymchwiliad nad yw arferion y DVSA yn dod yn agos at gwrdd â’r ymrwymiad y mae wedi ei wneud i bobl Cymru yn ei Gynllun Iaith Gymraeg.’

‘Realiti’r sefyllfa yw bod ein pobl ifanc yn cael eu gorfodi i dderbyn triniaeth lai ffafriol os ydynt eisiau gwasanaeth Cymraeg yng Nghymru heddiw, a’u bod yn cael eu gorfodi i ddatgan ‘gofynion arbennig’ os ydynt am ddefnyddio’r iaith. Mae’n hawdd iawn rhagweld sut y gallai profiad mor negyddol o oedran ifanc gael effaith negyddol ar eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg wrth fynd yn hŷn.’ 

Mae ymchwil y Comisiynydd yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg os ydynt yn credu y byddai hynny’n arwain at unrhyw oedi, annifyrrwch neu drafferth. Wrth gynnal yr ymchwiliad, clywodd y Comisiynydd am brofiad merch o ardal y Rhyl a oedd yn dymuno sefyll ei phrawf gyrru yn Gymraeg yn cael ei hysbysu ddau ddiwrnod cyn y prawf na fyddai arholwr Cymraeg ar gael. Roedd y teulu yn siomedig ynglŷn â hyn ac ynglŷn â chynnig yr asiantaeth i barhau gydag arholwr Saesneg neu aros dros bump wythnos am arholwr Cymraeg.

Dywedodd Aled Roberts: ‘Y neges sy’n cael ei rhoi i’n pobl ifanc yw y dylent ddefnyddio’r Saesneg os ydynt am sefyll eu prawf gyrru. Ac o edrych ar ba mor isel yw’r niferoedd sy’n sefyll eu prawf drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n amlwg fod hyn yn cael dylanwad ar ddewis iaith unigolion. Yn sicr, nid yw’r hyn sy’n digwydd yn adlewyrchu addewid cyhoeddus y DVSA i drin y ddwy iaith yn gyfartal.’

Yn ei adroddiad, mae’r Comisiynydd yn argymell bod y DVSA yn cynnal adolygiad o’r ffordd caiff profion cyfrwng Cymraeg eu cynnal ac yn paratoi cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod profion gyrru ymarferol Cymraeg yn cael eu cynnig yn rhagweithiol ac yn gyfartal yn y dyfodol.

Ychwanegodd Aled Roberts: ‘Rwy’n cyflwyno’r argymhellion hyn i’r DVSA, ond mae gen i neges ehangach hefyd, sef y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y dystiolaeth ddamniol yn yr adroddiad hwn, a chydnabod bod cam enfawr yn cael ei wneud â’n pobl ifanc.

‘Yr unig ffordd o ddatrys yr anghyfiawnder hwn, yn fy marn i, yw dod â’r DVSA o dan gyfundrefn safonau’r Gymraeg, a gwarchod hawl ymgeiswyr i sefyll eu profion gyrru yn y Gymraeg heb ddioddef triniaeth anffafriol. Byddai hyn hefyd yn sicrhau fy mod i fel Comisiynydd yn gallu gorfodi gwella yn hytrach nag argymell hynny.’

Mae canlyniadau arolwg barn a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd yn ei adroddiad ‘Camu Ymlaen’ ym mis Medi 2021 yn dangos fod profiadau siaradwyr Cymraeg wedi gwella yn sgil safonau’r Gymraeg.