Mynychwyr y gynhadledd

Mae’n debyg os byddwch chi’n crwydro dinas ôl-ddiwydiannol Cottbus, ail ddinas fwyaf Brandenburg yn nwyrain yr Almaen, y gallwch chi ddod o hyd i o leiaf 14 amrywiad ar sillafiad enw’r ddinas yn yr iaith Sorbeg: Chóśebuz. Gallaf feddwl am drefi yng Nghymru lle cewch chi brofiad tebyg!

Dyma un o blith nifer o gymariaethau y gellid eu tynnu rhwng sefyllfa’r Gymraeg a sefyllfa’r ieithoedd Sorbeg, ieithoedd Slafonig a siaredir gan y Sorbiaid yn rhanbarth hanesyddol Lusatia. Mae’r Sorbiaid yn un o’r pedwar grŵp ethnig cynhenid sy’n cael eu cydnabod yn swyddogol yn yr Almaen. Mae Lusatia wedi ei rhannu’n ddwy a siaredir dwy brif iaith leiafrifol yno: Is-Sorbeg yn ardal ddinesig Cottbus ac Uwch-Sorbeg yn ardaloedd gwledig Uwch Lusatia, rhan o Saxony heddiw.

Ond mae sefyllfa’r iaith Sorbeg yn dra gwahanol i sefyllfa’r iaith Gymraeg a dyna pam y gwahoddwyd swyddfa’r Comisiynydd i fynd i roi cyflwyniad am fodel y Comisiynydd a’r gwahaniaeth y mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi ei wneud i statws a sefyllfa’r Gymraeg. Mae’r sefydliadau sy’n ceisio hybu’r ieithoedd Sorbeg wedi cyrraedd math o groesffordd yn eu hanes ac angen penderfynu ar y ffordd orau ymlaen i sicrhau dyfodol eu hieithoedd. Er mwyn eu cynorthwyo i gynllunio’r camau nesaf gwnaethant drefnu cynhadledd â’r nod o ddod ag arbenigwyr oedd yn cynrychioli ieithoedd eraill ynghyd i rannu’r strwythurau sydd ar waith yn eu gwledydd nhw a chodi cwr y llen ar y llwyddiannau a’r heriau sy’n parhau.

Nod y trefnwyr oedd cael deialog agored ac onest ymhlith y cyfranwyr a wahoddwyd o Lydaw, Ynys Manaw, Iwerddon, Ladinia a Chymru. Roeddent am balu o dan yr wyneb a chanfod mwy am y strwythurau nag y gellid ei ddarllen mewn llyfr neu ar wefan. Cafwyd cyfres o baneli trafod fesul iaith ar y diwrnod cyntaf ac yna gweithdai ymarferol yr ail ddiwrnod. Dyma ddolen at y rhaglen er gwybodaeth.

Roedd bod yng nghwmni grŵp lleiafrifol yn yr Almaen ar 8 Mai a chofio am erchyllterau rhyfel a’r modd y gwnaeth lleiafrifoedd yn benodol ddioddef yn y wlad honno, yn brofiad trist a sobreiddiol. Atgoffwyd ni i gyd am bwysigrwydd sylfaenol hawliau ieithyddol a phwysigrwydd parchu, gwarchod a dathlu amrywiaethau ieithyddol, ethnig a diwylliannol.

Roedd hi’n fraint cyflwyno’r llwyddiannau a’r heriau sydd yng Nghymru heddiw â chriw mor brwdfrydig o ysgolheigion a llunwyr polisi sydd yn daer yn ceisio darganfod y strwythurau mwyaf effeithiol i sicrhau hyfywedd eu ieithoedd bregus. Roeddwn i hefyd yn teimlo’n swil ar brydiau o sylweddoli pa mor freintiedig ydym ni yng Nghymru i fod â’r strwythurau, strategaethau a’r polisïau sydd gennym ni. Mae rhagor eto i’w wneud yma, wrth gwrs, ond mae nifer o ieithoedd eraill yn Ewrop sy’n eiddigeddu’n fawr at ein sefyllfa ni. Mae hynny’n destun balchder a diolchgarwch. Ond dylai hefyd fod yn sbardun i ni ddyfalbarhau i geisio arloesi yn y maes cynllunio ieithyddol. Er budd y Gymraeg ac er budd yr ieithoedd hynny sy’n awyddus i ddysgu o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru. 

 

Llun gan Clemens Schiesko