Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn dychwelyd i faes Eisteddfod yr Urdd eleni am y tro cyntaf ers 3 blynedd. Rhif 9 ar y map yw ein stondin. Dewch draw in gweld!

Dyma gyfle i gael sgwrs gyda’n staff ar y maes ac i rannu eich profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg. Cewch gyfle i wneud cwyn os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg gan sefydliad. Cewch nodi eich ymholiad ar gerdyn post a’i bostio yn ein blwch post arbennig.

Dewch i bori drwy ein tudalen newydd ar ein gwefan sy’n cynnwys Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru , lle gallwch chwilio am enw eich tref, pentref neu ddinas. Gallwch hefyd brofi eich gwybodaeth drwy roi ymgais ar leoli enwau lleoedd ar fap o Gymru.

Ddydd Mercher byddwn yn dathlu diwrnod y Cynnig Cymraeg. Dyma gyfle i dynnu sylw at fusnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg. Fel rhan o’r dathliadau bydd digwyddiad i longyfarch y sefydliadau hyn a chydnabod eu hymdrechion.

Bydd hefyd nifer o weithgareddau i blant ar ein stondin yn cynnwys helfa drysor a chyfle i greu bathodynnau. Bydd ambell wobr werth ei chael hefyd!

Edrychwn ymlaen at eich gweld wythnos nesaf!