Croeso i Wrecsam

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn agosáu ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn Wrecsam am yr wythnos. Gobeithio y cawn gyfle i sgwrsio â llawer ohonoch ar ein stondin.

Yn ychwanegol i’r cyfleoedd bob dydd i chi ddod i siarad gyda’r staff, rhyngweithio gyda’n map enwau lleoedd a gofyn unrhyw gwestiynau, bydd gyda ni weithgareddau arbennig hefyd ar y stondin ac o gwmpas y maes.

Mewn digwyddiad ar fore Llun, 4 Awst am 11 yn y Cymdeithasau, bydd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg yn amlinellu ei gweledigaeth yn dilyn cyhoeddi cynllun strategol pum mlynedd a maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026. Yn ymuno ag Efa bydd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru a Phrifysgol Wrecsam ynghyd â Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn, dan gadeiryddiaeth Iwan Griffiths.

Yna, ddydd Iau, 7 Awst am 11.30 ar stondin Prifysgol Bangor byddwn yn cyhoeddi datganiad polisi rheoleiddiol ar Ddeallusrwydd Artiffisial a’r Gymraeg. Cynhelir trafodaeth fydd yn cynnwys Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio, Osian Llywelyn, ynghyd â chynrychiolwyr o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Chanolfan Bedwyr.
 
Prynhawn dydd Gwener, 8 Awst am 12 o'r gloch, ar ein stondin byddwn yn cyhoeddi ein helusen swyddogol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Drwy gydol yr wythnos bydd amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnig gan ein partneriaid a rhai sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg. Ddydd Sul bydd cynrychiolwyr o swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn ar y stondin i drafod dod o hyd i wasanaethau yn y Gymraeg a dydd Mawrth gallwch glywed mwy am waith Ambiwlans Awyr Cymru yn ogystal â dod i wrando ar adloniant gan gôr Ysgol Maes Garmon.

Ddydd Mercher bydd Ffa-la-la ar y stondin yn gwneud sesiwn i blant ac yn cyflwyno eu hadnoddau newydd, 'Hwyliaith', ac ar y dydd Iau bydd cynrychiolwyr o swyddfa Cyllid a Thollau wrth law i drafod a dangos sut mae defnyddio eu ap dwyieithog. 

Ddydd Gwener, beth am ddod i gael cyngor a chefnogaeth gan gwmni Penodi os ydych am wneud cais am swyddi neu lenwi CV yn y Gymraeg. 

Rhywbeth at ddant pawb, felly, beth am alw draw i’n gweld – bydd croeso cynnes yn eich disgwyl. Gallwch weld ein gweithgareddau ar gyfer yr wythnos gyfan yma.