Logo Defnyddia dy Gymraeg

Annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg ymhob sefyllfa yw nod ymgyrch flynyddol Comisiynydd y Gymraeg ac mae dathliad penblwydd arbennig eleni yn rhan o’r ymgyrch. Mae’r ymgyrch, sydd yn dwyn y teitl, Defnyddia dy Gymraeg, yn annog pawb i ddefnyddio eu Cymraeg wrth fyw eu bywydau bob dydd.  

Eleni bydd ffocws arbennig ar ddathlu ugain mlynedd ers cyflwyno cynllun Iaith Gwaith a’r bathodyn bach oren sydd bellach mor adnabyddus i bawb. Dros y bythefnos nesaf bydd anogaeth i bawb hyrwyddo’r ymgyrch drwy arddangos y bathodyn. 

Cefnogaeth enwau adnabyddus 

Mae nifer o wynebau adnabyddus yn cefnogi’r ymgyrch eleni gan gynnwys Katie Owen a Chris Roberts. Un arall o’r wynebau cyfarwydd yw’r chwaraewr rygbi, canwr a chyflwynydd Lloyd Lewis sy’n serennu mewn ffilm fer yn dangos lle mae e’n defnyddio’r Gymraeg, 

“Fi’n ffodus iawn o gael y cyfle i allu defnyddio’r Gymraeg mewn sawl rhan o fy ngwaith, wrth gyflwyno, wrth ganu ac yn aml erbyn hyn wrth wneud chwaraeon hefyd. Rwy’n ceisio trwy’r amser codi proffil y Gymraeg a trio gwneud y pwynt ei fod i’w glywed ymhob man ac mae llawer o bobl yn ei siarad ond rhai falle ddim mor hyderus ag eraill. 

“Rwy’n falch iawn o gael chwarae rhan yn yr ymgyrch yma eleni a fy neges i bawb i’w Defnyddia dy Gymraeg!”  

Trydedd flwyddyn yr ymgyrch  

Dyma’r drydedd flwyddyn i’r ymgyrch hon gael ei chynnal ac yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mae’r brwdfrydedd yn cynyddu yn flynyddol, 

“Eleni rwyf wedi cyhoeddi cynllun strategol pum mlynedd a hefyd maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026. Ynddynt mae blaenoriaethau penodol ar gyfer y dyfodol ond yr hyn sydd yn gyrru’r blaenoriaethau hyn yw’r awydd i weld y Gymraeg yn iaith fyw ar ein strydoedd ac yn ein cymunedau. 

“Mae ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg yn elfen arall o’n gwaith sydd yn ategu ein blaenoriaethau craidd ac mae cyfle i bawb chwarae eu rhan. Mae’r diddordeb a’r brwdfrydedd yn cynyddu yn flynyddol ac rwy’n edrych ymlaen at weld amryw o weithgareddau dros gyfnod yr ymgyrch eleni.” 

Cefnogaeth Bardd Plant Cymru 

Mae Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen, hefyd yn rhan o'r ymgyrch eleni wrth greu cerdd arbennig yng nghwmni nifer o blant ysgolion cynradd y wlad, 

“Roeddwn yn falch iawn o allu cefnogi ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg eleni. Fe wnes i weithdy rhithiol gydag ysgolion ac roedd y syniadau a gyflwynwyd yn wych. Y bwriad nawr yw creu cerdd arbennig i ddathlu ugain mlynedd o gynllun Iaith Gwaith yn cynnwys llinellau a syniadau a gasglwyd gan y disgyblion. 

“Cadwch lygad am yr holl weithgaredd, gwisgwch eich bathodyn, ond yn bwysicach, Defnyddia dy Gymraeg!” 

Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #DefnyddiaDyGymraeg neu fynd i wefan comisiynyddygymraeg.cymru lle gallwch lawrlwytho nifer o adnoddau amrywiol. Mae’r ymgyrch yn cychwyn heddiw (24 Tachwedd) ac yn para tan y 5 Rhagfyr.