- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Wrth i ddeallusrwydd artiffisial (DA) yn gynyddol ddod yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd mae Comisiynydd y Gymraeg heddiw (7 Awst) yn cyhoeddi polisi ar y defnydd ohono gan sefydliadau sydd yn dod o dan Safonau’r Gymraeg.
Ers cyflwyno safonau'r Gymraeg yn 2016, mae llawer wedi newid ym maes technoleg, gyda’r defnydd o’r Gymraeg mewn systemau DA yn fwy effeithiol nag erioed o'r blaen. Mae'r defnydd o DA yn galluogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon, personol a hygyrch gan gynnig manteision sylweddol i'r Gymraeg, ac o bosib sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol ac yn fyw mewn byd digidol.
Ond wrth fabwysiadu'r technolegau newydd hyn, mae'n hanfodol bod sefydliadau yn parhau i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg. Dyna yw’r rheswm dros gyhoeddi’r polisi yma heddiw yn ôl Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio,
“Mae maes deallusrwydd artiffisial yn un sy’n datblygu ar garlam ac yn siŵr o newid yn sylfaenol sut y byddwn ni’n cyfathrebu â’n gilydd a’r byd o’n cwmpas, tra ar yr un pryd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i wella'r gwasanaethau gaiff ei ddarparu yng Nghymru.
“Mae Safonau’r Gymraeg yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg ac yn parhau i fod yn iaith fyw yn ein bywydau bob dydd. Mae'n bwysig felly bod unrhyw ddatblygiadau technolegol yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd sy'n parhau i adlewyrchu arferion defnyddwyr, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a'i hyrwyddo yn y byd digidol.
“Rydym yn gefnogol i’r defnydd o DA gan ei fod yn cynnig cyfleoedd unigryw i wella gwasanaethau, ond rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy'n parchu ac yn hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant. Gobeithio bydd cyhoeddi’r polisi yma heddiw yn fodd o gynorthwyo i wneud hynny yn effeithiol.”
Caiff trafodaeth bellach am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ym maes gwasanaethau Cymraeg ei chynnal heddiw (7 Awst) am 11.30 ar stondin Prifysgol Bangor lle bydd panel o arbenigwyr a defnyddwyr yn ymuno ag Osian Llywelyn i drafod y maes hwn.
Un o'r rhai fydd yn cyfrannu fydd Osian Jones o'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol sydd yn gweithio gyda sefydliadau i drawsnewid gwasanaethau yng Nghymru,
“Mae Safon Gwasanaethau Digidol Cymru wedi ei ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae'n diffinio sut beth yw gwasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru ac mae’n helpu sefydliadau cyhoeddus i ddylunio a darparu gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.
“Ein nod ni fel Canolfan yw i helpu sefydliadau ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon a’u gwneud yn hawdd eu defnyddio. Drwy gydweithio, ein gobaith yw y gallwn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn arweinydd ym maes technoleg, tra hefyd yn cynnal a hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant unigryw.”
Mae croeso i unrhyw un ddod i’r digwyddiad am 11.30 ar stondin Prifysgol Bangor i wrando ac i gyfrannu a gellir darllen y datganiad polisi yn llawn yma.