Panel o siaradwyr yn eistedd mewn cynhadledd

Yn y blog hwn, mae Carys Edwards, Swyddog Hyrwyddo Cydymffurfiaeth, yn edrych yn ôl dros gyfnod prysur yn y maes gweithleoedd a’r Gymraeg, gan rannu ei phrofiadau a’i sylwadau ar y camau nesaf wrth i’r maes barhau i ddatblygu. 

Mae’r gweithle yn faes strategol allweddol i’r Comisiynydd dros y cyfnod nesaf, ac rydym yn awyddus i gefnogi cyflogwyr i greu cyfleoedd amrywiol, cyson ac ystyrlon i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. 

Yn ogystal â’r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol i ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg. Heb ddefnydd cyson, mae perygl y bydd gallu pobl i siarad Cymraeg yn gwanhau dros amser. Mae gan weithleoedd felly rôl arwyddocaol – nid yn unig fel lleoliadau gwaith, ond fel mannau lle mae’r Gymraeg yn gallu ffynnu’n gymdeithasol ac yn broffesiynol.  

Gall y defnydd hwn fod yn ffurfiol – mewn cyfarfodydd, cyflwyniadau ac e-byst – neu’n anffurfiol – wrth sgwrsio a thrafod gyda chydweithwyr. Rydym yn gwybod mai’r Saesneg yw’r brif iaith mewn nifer o weithleoedd, felly mae cynllunio pwrpasol yn hanfodol i newid diwylliant.  

Creu polisi i yrru newid 

Mae safonau’r Gymraeg yn gofyn i sefydliadau lunio polisi i hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn fewnol. Mae hyn yn rhoi pwyslais ar greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg rhwng cydweithwyr, ac wrth gyflawni tasgau gwaith.  

I gefnogi hyn, rydym wedi datblygu cyfres o fodelau polisi defnydd mewnol o’r Gymraeg. Mae’r modelau hyn yn cynnig strwythur i sefydliadau ddatblygu polisïau uchelgeisiol ac effeithiol, gan eu helpu i symud ar hyd continwwm o ddefnydd iaith – o’r sylfaenol i’r arloesol. Maent yn annog sefydliadau i osod amcanion clir, targedau mesuradwy ac uchelgeisiol, ac i ystyried sut i ymgorffori’r Gymraeg yn naturiol yn eu diwylliant gwaith.  

Gallwch weld y pecyn modelau polisi defnydd mewnol ar ein gwefan: Modelau Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg 

Dysgu wrth ein gilydd 

Yn dilyn y gynhadledd genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, lle daeth arweinwyr a gweithwyr o bob sector ynghyd i drafod arwain mewn Cymru ddwyieithog, fe wnaethom ymrwymo i gynnal y momentwm a gafwyd yn ystod y digwyddiad.  

Gwyliwch y fideo yma i weld uchafbwyntiau'r gynhadledd.

 

 

Er mwyn parhau â’r sgwrs a chynnig gofod i rannu profiadau, syniadau ac arfer da, rydym wedi sefydlu fforwm rhithiol - fforwm sy’n rhan o arweinyddiaeth strategol Comisiynydd y Gymraeg i hyrwyddo cydymffurfiaeth a chefnogi sefydliadau i ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol. 

Yn y fforwm gyntaf daeth cynrychiolwyr o amryw sefydliadau ynghyd i drafod heriau ac atebion ymarferol.  

Braf oedd clywed gan Gyngor Sir Ddinbych am eu profiad nhw o ddefnyddio modelau polisi’r Comisiynydd i ddatblygu polisi defnydd mewnol newydd i’r Cyngor. Fe glywsom hefyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am y camau maen nhw wedi cymryd i hybu’r Gymraeg yn fewnol. Yn ogystal, rhannodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant drwy Academi Cymraeg Gwaith, sy’n cefnogi datblygiad sgiliau iaith y gweithlu. 

Bydd y fforwm yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, i drafod amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae gwybodaeth am ein holl ddigwyddiadau ar gael yma: Hyrwyddo Cydymffurfiaeth