Gwyddonwyr

Ymchwil Canser Cymru yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Mae’n elusen annibynnol a sefydlwyd ym 1966, ac ers hynny, mae wedi buddsoddi dros £35 miliwn mewn gwaith ymchwil arloesol i  ganser yma yng Nghymru.

Mae’n pencadlys yn dal i fod yn Nghaerdydd a bellach, mae gennym ni 15 o siopau ledled Cymru - o Gaernarfon i Wrecsam yn y gogledd ac o Gwent i Abertawe yn y de.

Rydym yn ariannu gwaith ymchwil canser o’r radd flaenaf yma yng Nghymru er lles pobl Cymru. Rydym yn rhoi’r cyfle i’r cyhoedd a busnesau Cymru gefnogi y gwaith pwysig hwn trwy godi arian i dalu am gwaith ymchwil wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau megis Hanner Marathon Caerdydd; cyfrannu arian; gwirfoddoli yn ein siopau; cyfrannu nwyddau i’n siopau a siopa yn ein siopau.

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?

Ni yw’r elusen ymchwil canser Gymreig ac  rydyn ni’n bodoli i wasanaethu pobl Cymru, felly mae’r Gymraeg a’r defnydd ohoni, ar ein gwefan, cyfathrebiadau allanol megis ein cyhoeddiadau a’n cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, yn hollbwysig. Ein nod yn y pendraw ydi uno Cymru yn erbyn canser – sut gallwn ni wneud hynny heb ddefnyddio’r Gymraeg?

Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.  

Cafodd ein Prif Weithredwr Adam Fletcher, ei benodi yn ystod haf 2024 a roedd o’n awyddus iawn o’r cychwyn cyntaf i ymgeisio am y Cynnig Cymraeg. Roedd y ffaith fod y wefan yn barod yn ddwyieithog a’n cyfathrebiadau allanol megis ein cyhoeddiadau a’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog yn ogystal a’r arwyddion a’r brandio yn ein siopau yn sicr wedi helpu i  hwyluso’r broses o ymgeisio am y Cynnig Cymraeg.

Mi ail-frandiodd Ymchwil Canser Cymru yn ôl yn 2022 a mi ddechreuodd y brandio hwnnw oedd yn llwyr ddwyieithog ymddangos ar y llond llaw o siopau oedd gennym ar y pryd . 
Wrth i ni agor rhagor o siopau dros y blynyddoedd dilynol, daeth y dwyieithrwydd yn fwy amlwg ac yn naturiol. Tyfodd ein tîm ac yna yn fuan yn 2024, mi benderfynom ni gyfieithu’r wefan – mae yna ymhell dros 200 tudalen arni hi ac roedd hwnnw yn benderfyniad bwriadol i ymestyn ein defnydd o Gymraeg ar draws yr elusen.

O gofio hyn i gyd, roedd y broses o ymgeisio am y Cynnig Cymraeg yn un eithaf organig. Mae yna dipyn o waith ynghlwm wrth baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o safbwynt mapio yr hyn sydd wedi ei gyflawni a’r hyn sydd angen ei gyflawnni, ond mae pob peth sydd yn werth ei wneud yn cymryd amser ac mae’r gefnogaeth rydym ei dderbyn gan swyddfa y Comisiynydd wedi bod yn werth chweil.

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?

Mae’n bwysig iawn a mae’n anrhydedd i dderbyn cydnabyddiaeth am y gwaith sydd wedi ei wneud gennym ni i gyrraedd y nod hwn, ond yn bwysicach na hynny, mae’n dangos ein hymrwymiad i’r iaith i bobl Cymru, sef y bobl sydd yn ein cefnogi ni yn ein gwaith bob dydd.

Mae’n gydnabyddiaeth hefyd i ni ein bod ni’n deall bod angen i ni wneud ein rhan a chyfrannu  at ddiwylliant Cymru.

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg a beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?

Mae’r Cynnig Cymraeg yn dystiolaeth mai elusen Gymreig ydi Ymchwil Canser Cymru– elusen sydd yn rhan o Gymru ac wedi bod ers bron i 60 mlynedd, ac un sydd yn buddsoddi ei holl gyllid ymchwil yma yng Nghymru i wthio ffiniau gwaith ymchwil i ddiagnosio a thrin canser yng Nghymru er lles pobl Cymru.

Ydych chi’n meddwl y gwnaiff derbyn y Cynnig Cymraeg wneud gwahaniaeth i’ch gwaith?

Rydym yn ffyddiog y bydd y Cynnig Cymraeg yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n gwaith. Mi fydd ymwelwyr i’n gwefan yn gweld y bathodyn a bydd hynny yn rhoi hyder iddynt eu bod yn  cefnogi elusen sydd yn angerddol am Gymru a’i phobl a’i hiaith -  elusen sydd yn gweithredu er lles pobl Cymru.  

Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?

Byddem -yn sicr. Mae yna dipyn o waith i’w wneud, ond mae’r gefnogaeth y cewch chi gan staff swyddfa y Comisiynydd yn ddi-guro ac mae’r boddhad o dderbyn y Cynnig Cymraeg a’r potensial y mae hynny yn ei gynnig i’ch sefydliad yn werthfawr iawn.