Canolfan wyddoniaeth yng Ngogledd Cymru yw Xplore!. Mae eu canolfan yn cynnig gweithgareddau gwyddoniaeth, gweithgareddau fforio ac atyniadau hwyl. Mae Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes yn Xplore! yn trafod y broses o fynd am y Cynnig Cymraeg isod. 

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi? 

Mae defnyddio'r Gymraeg yn bwysig i Xplore! gan ein bod yn cydnabod ei fod yn rhan gynyddol bwysig o ddiwylliant a hunaniaeth Wrecsam fel dinas newydd a chymuned hanesyddol Gymraeg. Mae’n bwysig ein bod yn cyfathrebu yn iaith ddewisol person a sicrhau ein bod yn cynrychioli pob rhan o’n cymuned leol. 

Mae’n ofnadwy o bwysig i ni fel elusen addysgiadol fod ein buddiolwyr, gan gynnwys dysgwyr ifanc, yn gallu derbyn gwasanaeth yn Gymraeg a chlywed a phrofi terminoleg wyddonol yn ei chyd-destun. Bydd hyn yn helpu’r iaith i flodeuo a thyfu gan mai prin yw’r cyfleoedd i brofi gwyddoniaeth yn y Gymraeg y tu allan i addysg ffurfiol. 

Pam ydych chi eisiau derbyn y Cynnig Cymraeg? 

Bydd yn ein helpu i ddangos i’r gymuned leol ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth i bobl Cymru. Bydd hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth i’r staff am eu gwaith caled ac yn hwb i’w cymhelliant i barhau i ddatblygu eu sgiliau a hybu’r Gymraeg. 

Ydych chi'n meddwl y bydd y Cynnig Cymraeg yn gwneud gwahaniaeth i'ch gwaith? 

Gobeithiwn y bydd yn meithrin lefel newydd o falchder yn y sefydliad. Drwy weithio ar ein Cynnig Cymraeg, mae’r iaith yn dod yn rhan o’n diwylliant mewnol. 

Oes gennych chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg? 

Ein cyngor i eraill fyddai peidio ag oedi ac i ddechrau arni! Gall rhywun gyflawni cryn dipyn mewn amser cymharol fyr. Byddwn hefyd yn dweud bod hunan fyfyrio gonest yn allweddol - nid yn unig byddwch yn darganfod meysydd i'w datblygu ond hefyd yn tynnu sylw at yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud y gallwch fod yn falch ohono. 

Pa dri pheth allwch chi eu cynnig i ddefnyddwyr gwasanaeth yn Gymraeg? 

  • Rydym yn cynnig ymweliadau ysgol i’n canolfan wyddoniaeth a darganfod yn Gymraeg gan gynnwys cyflwyno gweithdy neu sioe STEM yn Gymraeg. 
  • Gallwn gyflwyno cymorth i ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws gogledd a chanolbarth Cymru gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Rydym wedi creu amgylchedd sy'n hyrwyddo’r Gymraeg trwy ddefnyddio arwyddion dwyieithog, cyfarchion Cymraeg, a cyhoeddiadau a deunyddiau cyhoeddusrwydd.