- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Triathlon Cymru yw'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer triathlon yng Nghymru. Fe'i rheolir gan fwrdd gwirfoddol.
Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n eu cynnig?
Yn Triathlon Cymru, rydym yn ceisio ymgorffori’r Gymraeg ar draws cymaint o feysydd o’n gwaith ag sy’n bosib. Mae ein cylchlythyr wythnosol i aelodau yn ddwyieithog, gyda straeon allweddol yn cael eu cyfieithu bob wythnos i sicrhau hygyrchedd i bob aelod.
Rydym hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol cwbl ddwyieithog, gan alluogi rhanddeiliaid ac aelodau i ymgysylltu â’n llwyddiannau a’n cyfeiriad strategol a’u dathlu. Ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, rydym yn cynnwys y Gymraeg ym mhob post, yn aml yn dechrau gyda brawddeg neu ymadrodd Cymraeg.
Enghraifft ddiweddar o’n hymrwymiad yw ein prosiect Tri Dewi, a gyflwynwyd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2026. Buom yn cydweithio â’n clybiau ledled Cymru i’w hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau triathlon, gyda 26 o glybiau yn trefnu digwyddiad aml-chwaraeon. Buom hefyd yn cydweithio â chanolfannau hamdden ym mhob sir a thros 3,000 o blant ysgol gynradd, gan ddathlu hunaniaeth Gymreig, chwaraeon a chymuned. Fel rhan o’r prosiect hwn, roedd yr holl adnoddau ar gael yn Gymraeg.
Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i’ch sefydliad a’r sector chwaraeon yn gyffredinol?
Fel Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, mae’r Gymraeg yn ganolog i’r ffordd rydym yn cysylltu â phobl a lleoedd. Mae defnyddio’r Gymraeg yn dod â chynhesrwydd, balchder ac ymdeimlad o berthyn i’n cyfathrebiadau a’n digwyddiadau—mae’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u croesawu o’r cyswllt cyntaf.
Mae datblygu ein darpariaeth Gymraeg hefyd yn cyd-fynd ag ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): rydym am i’r Gymraeg fod yn rhan fyw, bob dydd o chwaraeon nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i gynhwysiant, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at ein camp a’i phrofi yn yr iaith y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio. Mae hefyd yn cryfhau cydlyniant cymdeithasol drwy greu mannau lle mae’r Gymraeg yn weladwy, yn cael ei gwerthfawrogi ac yn cael ei normaleiddio—gan ddod â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg at eu gilydd drwy chwaraeon.
Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.
Gwnaethom benderfyniad ymwybodol i gryfhau ein darpariaeth Gymraeg fel rhan o’n hymrwymiad i gynhwysiant ac ymgysylltu â’r gymuned.
Dechreuodd y broses gyda chadarnhau ein gwasanaethau dwyieithog presennol a nodi meysydd i’w datblygu. Yna buom yn gweithio’n agos gyda thîm Comisiynydd y Gymraeg i osod targedau clir a chyraeddadwy a chreu cynllun strwythuredig.
Roedd hyn yn cynnwys dyrannu cyfrifoldebau i staff a sicrhau ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad. Ar ôl ei gwblhau, cyflwynwyd y cynllun i’r Comisiynydd i’w adolygu. Yn dilyn cymeradwyaeth, derbyniwyd cydnabyddiaeth swyddogol a’r hawl i ddefnyddio logo’r Cynnig Cymraeg.
Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg? Beth yw’r budd i chi?
Roedd derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg yn garreg filltir bwysig i ni. Roedd yn cydnabod y cynnydd rydym wedi’i wneud ac yn cefnogi ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg.
Mae’n cryfhau ein hygrededd fel sefydliad cenedlaethol ac yn dangos i’n haelodau a’n rhanddeiliaid ein bod wedi ymrwymo i’r iaith.
Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?
Mae darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn helpu i greu amgylchedd mwy cynhwysol a chroesawgar i gyfranogwyr, aelodau a chymunedau ledled Cymru. Mae’n galluogi unigolion i ymgysylltu â’n camp yn eu dewis iaith, a all wella hyder, cysylltiad a’r profiad cyffredinol.
Mae’n cryfhau ymgysylltiad cymunedol a chydlyniant cymdeithasol, yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach, ac yn cefnogi twf hirdymor triathlon ledled Cymru.
Allwch chi rannu enghraifft diweddar o ddefnydd da o’r Gymraeg gyda ni?
Mae ein prosiect Tri Dewi ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2026 yn enghraifft dda. Gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru, daeth y fenter â chlybiau, canolfannau hamdden ac ysgolion ynghyd ledled Cymru i gyflwyno diwrnod cenedlaethol o weithgareddau triathlon.
Buom yn gweithio gyda chyfieithydd llawrydd Cymraeg i sicrhau bod holl ddeunyddiau’r prosiect yn gwbl ddwyieithog, gan gynnwys cynnwys cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebiadau clybiau, asesiadau risg a datganiadau i’r wasg. Fe wnaethom hefyd gynhyrchu laniard gyda geiriau a ddefnyddir yn gyffredin wrth hyfforddi triathletwyr, gyda phob gair yn ymddangos yn Gymraeg, Saesneg ac iaith arwyddion.
Ers hynny, mae’r prosiect wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru, gan gydnabod ein hymrwymiad i’r Gymraeg.
Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?
Byddem yn sicr. Mae gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg yn gam gwerthfawr i unrhyw sefydliad yng Nghymru. Mae’n dangos ymrwymiad clir i gynhwysiant ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mae hefyd yn darparu mynediad at gefnogaeth ac arweiniad, gan ei gwneud yn haws datblygu a gwella gwasanaethau dwyieithog mewn ffordd ystyrlon a chynaliadwy.
Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?
Os ydych o ddifri ynglŷn â chynhwysiant ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, mae’n werth ei wneud. Gweithiwch yn agos gyda thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg—maent yn darparu cefnogaeth ac arweiniad rhagorol drwy gydol y broses.
Yn bwysicaf oll, peidiwch ag ofni defnyddio’r Gymraeg. Mae’n ymwneud â gwneud cynnydd, dysgu ar hyd y ffordd, a dangos ymrwymiad gwirioneddol i gefnogi’r iaith.