Meinir Davies JCP

Cwmni cyfreithiol rhanbarthol yw Cyfreithwyr JCP sydd â swyddfeydd yn Abertawe, Caerdydd, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Y Bont-faen, a Sir Benfro.

5 mlynedd yn ôl, roedd Cyfreithwyr JCP yn un o’r cyntaf i dderbyn y Cynnig Cymraeg. Beth wnaeth eich ysgogi i gymryd y cam hwnnw?

Bu’n ganolog i ethos JCP erioed ein bod yn rhan annatod o’r cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu, ac mae’r gallu i gyfathrebu â’n cleientiaid yn yr iaith y maen nhw fwyaf cartrefol ynddi yn rhan allweddol o’r agwedd honno. Roeddem wedi bod yn ymgysylltu gyda thîm Hybu swyddfa’r Comisiynydd ers sawl blwyddyn wrth baratoi ein Polisi Iaith Gymraeg, felly roedd ceisio am, a derbyn y Cynnig Cymraeg yn ddilyniant naturiol i ni.

Ar y pryd, beth oedd eich prif nodau wrth amlygu eich cefnogaeth i’r iaith Gymraeg?

Mae ein cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn cael eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd gwaith bob dydd ac rydym wedi bod yn cefnogi gweithgareddau cymunedol Cymreig, a noddi’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Caniataodd cynllun y Cynnig Cymraeg i ni arddangos hyn. Rydym wedi datblygu gwefan a llinell dalu ddwyieithog ac wedi cynhyrchu taflenni gwybodaeth a deunyddiau marchnata yn ddwyieithog hefyd.

Pa adborth ydych chi wedi’i dderbyn gan gleientiaid a’r gymuned ehangach ynglŷn â’ch cefnogaeth i’r iaith Gymraeg a’r gallu i drafod materion trwy gyfrwng y Gymraeg?

Rydym yn derbyn adborth positif iawn - mae’r Brecwastau Busnes Cymreig yr ydym wedi eu trefnu yn cael eu gwerthfawrogi’n arbennig fel cyfle gwych i ddatblygu a chryfhau perthnasoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pam ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru fod â’r gallu i drafod materion gyda chleientiaid yn y Gymraeg?

Mae sawl cleient preifat yn mynd at gyfreithwyr ar adeg anodd o’u bywydau ac os gallan nhw drafod materion yn yr iaith y maent mwyaf cyffyrddus ynddi gall hyn leihau’r straen. Mae adeiladu perthynas yn allweddol i fusnes i lwyddo a gall siarad Cymraeg gyfoethogi’r cysylltiadau yma.

Nawr bod pum mlynedd wedi mynd heibio, beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol ar gyfer cryfhau eich defnydd o’r Gymraeg?

Rydym yn parhau i edrych am gyfleoedd i gefnogi’r Gymraeg yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt, trwy gefnogi digwyddiadau lleol a sefydliadau mwy sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Byddwn yn parhau i drefnu Brecwastau Busnes Cymreig a digwyddiadau tebyg  fel cyfle i hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn busnes wrth sicrhau hefyd bod y gweithle yn amgylchedd lle mae siarad y Gymraeg yn naturiol ac yn cael ei gefnogi.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n ystyried mynd am y Cynnig Cymraeg?

Ewch amdani! Mae’r broses o ddelio gyda thîm Hybu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn broses bositif iawn. Cewch eich cefnogi wrth asesu ble mae eich sefydliad arni ar hyn o bryd ac wrth ddatblygu polisi/cynllun Iaith Gymraeg. Mae’r tîm yn rhoi awgrymiadau a thargedau ar sut i ddatblygu eich defnydd o’r Gymraeg a sut i gyflawni eich hamcanion.