- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mewn cynhadledd i’w chynnal yn Wrecsam heddiw (18 Tachwedd) bydd sefydliadau sydd yn gweithredu yng Nghymru yn dod at ei gilydd i rannu profiadau am arferion effeithiol o ran defnyddio’r Gymraeg wrth gynnig a darparu gwasanaethau.
Digwyddiad yw hwn sydd wedi ei drefnu gan Gomisiynydd y Gymraeg gyda’r nod o rannu arfer da a hyrwyddo dulliau newydd o weithio ymhob sector yng Nghymru.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar drothwy cychwyn ymgyrch flynyddol y Comisiynydd, Defnyddia dy Gymraeg, fydd eleni yn canolbwyntio ar ddathlu ugain mlynedd o gynllun Iaith Gwaith.
Yn ôl Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, mae nifer o sefydliadau yn arloesi wrth ddefnyddio’r Gymraeg ac mae’n bwysig i ni glywed a dysgu amdanynt,
“Yn ein cynllun strategol, un o’n prif amcanion yw i wella ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg, a thrwy hynny gynyddu’r defnydd ohonynt. Wrth drafod gydag amryw sefydliadau, yr hyn sydd yn galonogol i nodi yw fod nifer eisoes yn ystyried ffyrdd arloesol o sicrhau fod y Gymraeg i’w gweld a’i chlywed o fewn pob elfen o’u gwaith, ac o ganlyniad mae’n amlycach yn eu gwasanaethau i’r cyhoedd.
“Mae heddiw felly yn gyfle i glywed a deall mwy am sut y caiff y cynlluniau hynny eu rhoi ar waith.
“Mae’n amserol fod y gynhadledd yn cael ei chynnal wrth i ni edrych ymlaen i'n hymgyrch flynyddol Defnyddia dy Gymraeg a fydd eleni yn rhoi sylw arbennig i ddathlu ugain mlynedd o gynllun Iaith Gwaith. Mae’r bathodyn oren wedi bod yn llwyddiannus wrth annog pobl i sgwrsio a defnyddio’r Gymraeg a’n gobaith ni yw y bydd y gynhadledd heddiw yn cynnig hwb pellach i gynyddu amlygrwydd y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.”
Caiff y gynhadledd ei chynnal yng ngholeg Cambria, Wrecsam ac ymysg y cyfranwyr bydd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cymdeithas adeiladu’r Principality, elusen GISDA a Stephen Rule, y Doctor Cymraeg.
Hefyd yn cyfrannu bydd Elen Mai Nefydd, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol (Y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth), ym Mhrifysgol Wrecsam,
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at y gynhadledd hon sy’n cael ei chynnal ar drothwy ein drws fel petai. O’n safbwynt ni mae’n gyfle i sôn am y fframwaith ni wedi ei rhoi mewn lle yma dros y dair blynedd ddiwethaf gyda’r nod o ddod â’r Gymraeg yn fyw ym Mhrifysgol Wrecsam.
“Mae’r brifysgol bellach wedi ymrwymo’n ehangach i’r Gymraeg drwy sicrhau fod yr iaith, y diwylliant a’r dreftadaeth yn themâu ar draws ein gwaith bob dydd. Mae’n canolbwyntio nid yn unig ar ddatblygu’r ddarpariaeth academaidd drwy’r Gymraeg, ond hefyd ar ddatblygu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn galluogi ein myfyrwyr i feithrin y sgiliau angenrheidiol i fyw a gweithio’n hyderus drwy’r Gymraeg.
“Rwy’n edrych ymlaen at rannu ein gweledigaeth a chlywed gan eraill am eu profiadau.”
Mae disgwyl i dros 130 o bobl fynychu’r gynhadledd yn Wrecsam. Bydd ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg yn cychwyn yn swyddogol ar ddydd Llun, 24 Tachwedd a gellir cael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon.