- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cadarnhau’r bwriad i adeiladu 42 o dai newydd ar stâd ym Mhorth-y-rhyd ac mae pryderon wedi eu codi am effaith y datblygiad ar y Gymraeg.
Mewn ymateb dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg,
“Yng nghyd-destun y datblygiad ym Mhorth-y-rhyd bu fy swyddogion mewn cyswllt â’r cyngor yn gofyn a oedd asesiad wedi ei gynnal o effaith y cais ar y Gymraeg.
“Yn eu hymateb nododd y Cyngor fod asesiad effaith wedi ei gynnal ar Gynllun Datblygu Lleol y sir yn ei gyfanrwydd, a gan fod cymeradwyo’r cais hwn yn gyson â’r Cynllun Datblygu Lleol, nad oedd rheidrwydd arnynt i asesu’r effaith.
“Serch hynny, gan fod y cais hwn yn ymwneud â nifer sylweddol mwy o dai na’r bwriad gwreiddiol, fe wnaethom ofyn iddynt weithredu ar fyrder i gynnal asesiad o effaith y cynnig ar y Gymraeg, gan rannu canfyddiadau’r asesiad ymlaen llaw gyda’r rhai hynny a fyddai yn penderfynu’r cais.
“Ni weithredwyd yr argymhelliad hwnnw ac o ganlyniad rwyf wedi penderfynu agor ymchwiliad i’r mater. Bydd yr ymchwiliad yn ymwneud â’r broses ddilynodd y Cyngor wrth benderfynu cymeradwyo cais cynllunio yn ardal Porth-y-rhyd, ac yn ystyried a wnaeth y Cyngor gydymffurfio gyda’r safonau llunio polisi wrth wneud hynny.
“Mae safonau’r Gymraeg yn creu dyletswydd ar gynghorau, wrth lunio neu addasu polisi, i ystyried effeithiau penderfyniad polisi ar y Gymraeg.
“Byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach pan fydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.”