- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi mai’r elusen Ymchwil Canser Cymru fydd elusen y flwyddyn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae gwaith yr elusen ymchwil canser Gymreig wedi cyfrannu at welliannau helaeth mewn gwasanaethau canser i bobl yn byw gyda’r clefyd ar hyd Cymru.
Caiff y cyhoeddiad ei wneud heddiw (dydd Gwener 8 Awst) am hanner dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar stondin Comisiynydd y Gymraeg.
Ers nifer o flynyddoedd bellach mae’r Comisiynydd yn dewis elusen i’w chefnogi yn flynyddol yn dilyn pleidlais fewnol rhwng staff.
Y gobaith, o gydweithio gydag Ymchwil Canser Cymru, yn ôl Efa Gruffudd Jones, yw y bydd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am waith yr elusen yn ogystal â chodi arian i’w cynorthwyo,
“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Ymchwil Canser Cymru yw elusen y flwyddyn Comisiynydd y Gymraeg eleni. Mae’r gwaith maent yn ei wneud yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n dealltwriaeth o'r salwch hwn, salwch sydd yn effeithio ar bob un ohonom mewn un ffordd neu ei gilydd.
“Mae’n braf nodi iddynt dderbyn y Cynnig Cymraeg yn gynharach eleni, gan bwysleisio eu hymroddiad i’r Gymraeg ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio yn ystod y flwyddyn nesaf.”
Mewn ymateb dywedodd Iwan Rhys Roberts o elusen Ymchwil Canser Cymru,
“Rydym yn hynod ddiolchgar o gael ein dewis fel elusen y flwyddyn gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd canser yn effeithio ar un o bob dau o boblogaeth Cymru ac rydym ni wedi ymroi yn gyfan gwbl i ariannu ymchwil canser yng Nghymru.
“Mae ein hymchwil yn digwydd ar hyd ac ar led Cymru, yn ein cymunedau, ein hysbytai, mewn prifysgolion a labordai. Rydym wedi ymroi i allu gweithredu’n ddwyieithog, ac roeddem yn falch iawn o fod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg yn gynharach eleni fel arwydd o’r ymrwymiad hwnnw.
“Diolch eto i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ac edrychaf ymlaen i weld y bartneriaeth yn datblygu yn y flwyddyn nesaf.”
Bydd y digwyddiad i gyhoeddi’n swyddogol am 12 o'r gloch brynhawn heddiw (Gwener, 8 Awst) ar stondin Comisiynydd y Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.