2 berson yn cael trafodaeth tra'n eistedd ar soffa

Mae pobl ar draws Cymru yn cael eu hatgoffa o’u cyfle i gysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgyrch sy’n ceisio gwella’r ffordd yr ydym yn defnyddio’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

Mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill yng Nghymru i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal ochr yn ochr â’r Saesneg ond nid yw hyn bob amser yn wir ac o ganlyniad mae rhai yn cael eu gwahaniaethu yn annheg.

Yn ôl Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, gall hyn achosi gofid i unigolion a theuluoedd,

“O dan ein cylch gorchwyl mae gennym ddyletswydd i reoleiddio cyrff sector cyhoeddus a rhai asiantaethau penodol a sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hyn yn hynod o bwysig mewn meysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol gan fod y sefyllfaoedd eisoes yn anodd iawn i deuluoedd. Os na allant drafod gyda'r cyrff perthnasol yn eu dewis iaith, gall sefyllfa sydd eisoes yn heriol, waethygu ymhellach.

“Ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod yna faterion ehangach na’r rhai sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus a hoffem glywed am rheiny hefyd. Mae’n bosib y gwneir penderfyniadau polisi ar lefel leol heb unrhyw ystyriaeth i’r Gymraeg neu falle fod na faterion yn codi yn y gweithle.

“Trwy gydweithio gallwn wella gwasanaethau i bawb.”

Mae amrywiaeth o faterion eisoes wedi’u codi ac maent yn cynnwys enwi strydoedd yn briodol, cynnig cyrsiau diogelwch y cyhoedd a’r angen i sicrhau bod hysbysiadau neges destun dwyieithog yn cael eu defnyddio gan gyrff perthnasol.

Fel yr eglura Gwenith Price, mae’r rhan fwyaf o achosion yn cael eu datrys gyda chanlyniadau boddhaol i’r sefydliad a’r unigolyn,

“Mae’r broses o gysylltu â ni yn hawdd iawn – gall fod mewn unrhyw fodd – dros y ffôn, e-bost, hyd yn oed drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Yna byddwn yn rhoi’r camau perthnasol ar waith i nodi’r problemau a’r ffordd orau o’u datrys i bawb.”

I ddysgu mwy am y broses neu i gyflwyno cwyn ewch i  www.comisiynyddygymraeg.cymru