- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd yn agor ymchwiliad i ystyried sut mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn gweithredu ei gynllun iaith Gymraeg.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones,
“Fel sefydliad sy’n gweithredu cynllun iaith, ac yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n ofynnol i Wasanaeth y Carchardai gyflwyno cynllun i’r Comisiynydd sy’n nodi sut y bydd yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn Gymraeg.
“Mae’r Gwasanaeth wedi cyflwyno cynllun diwygiedig yn ddiweddar, ac ynddo mae’n ymrwymo i wella ei ddarpariaeth i garcharorion ac i’r cyhoedd. Mae’r ymrwymiadau hyn yn adeiladu ar waith blaenorol y Comisiynydd, gan gynnwys adroddiad a fu’n sail i’r cynllun blaenorol.
“Yn sgil pryderon a godwyd yn ddiweddar ynghylch gweithrediad y cynllun, ac yn dilyn ymweliad â Charchar y Berwyn yr wythnos hon, lle cefais gyfle i drafod y ddarpariaeth â staff a charcharorion, rwyf wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i’r modd y caiff y Gymraeg ei thrin ar draws y Gwasanaeth Carchardai. Nod yr ymchwiliad yw sicrhau bod yr ymrwymiadau yn y cynllun yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn arwain at welliannau sylweddol.
“Fel y nodais yn ddiweddar, os nad oes gennyf sicrwydd neu hyder fel rheoleiddiwr fod sefydliadau yn cydymffurfio â’r gofynion statudol, byddaf yn ymchwilio i’r materion hynny ac yn cymryd camau pendant lle bo angen.”
“Byddaf yn cyhoeddi canlyniadau’r ymchwiliad unwaith y bydd wedi ei gwblhau.”