Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi creu cyfres o ffilmiau byrion sydd yn amlygu arferion effeithiol o safbwynt y Gymraeg mewn amryw o gyrff ar draws Cymru.

Yn y darn blog isod mae Bethan Griffiths o dȋm Safonau’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru yn sôn am sut y maent yn gweithio tuag at sicrhau fod y corff cenedlaethol yn gweithio yn ddwyieithog erbyn 2050.  

Fe wnaethon ni lansio ein strategaeth defnydd mewnol: Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd dair blynedd yn ȏl ac o fewn honno, mae’n gosod y nod o ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050. Newid graddol dros amser yw’r bwriad ac mae am gael ei gweithredu mewn cylched o bum mlynedd ar y tro. 

Rydym yn ffodus o fewn Llywodraeth Cymru i gael arweinyddiaeth cryf o blaid y Gymraeg. Mae’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Parhaol, heb os, yn arwain ar hynny yn eu defnydd cyson nhw o’r iaith ac mae’r Uwch Wasanaeth Sifil a’n Huwch Arweinwyr ni i gyd yn cael eu hannog i ddangos esiampl o ran defnyddio’r Gymraeg a phrif ffrydio’r Gymraeg go iawn.  

Fel mewn nifer o sefydliadau mae ein gwaith digidol yn hollbwysig bellach o ran cyfathrebu negeseuon corfforaethol ac mae nifer o’n swyddogion digidol erbyn hyn yn siarad Cymraeg. Yn naturiol, mae’n holl sianeli ni’n ddwyieithog, a’r hyn ry ni’n ceisio meithrin yw math o amgylchedd lle ry ni’n meddwl yn Gymraeg, rydyn ni'n creu yn Gymraeg, yn drafftio yn Gymraeg, ac yn dysgu gan ein gilydd.   

Un peth arall ry ni wedi gwneud a sydd yn hollbwysig i lwyddiant ein strategaeth yw ein bod wedi ail gynllunio ein cynnig o ran hyfforddiant iaith. Mae e’n gynnig mwy eang, mwy hyblyg nag y mae e wedi bod yn y gorffennol, ac mae e wedi profi i fod yn boblogaidd iawn ymysg ein staff. 

Yn olaf ry ni hefyd wedi edrych ar sut ry ni’n recriwtio staff. Ry’n ni’n gwybod dros amser y bydd angen recriwtio rhagor o siaradwyr Cymraeg i’r sefydliad, a’r hyn ni’n gwneud nawr yw edrych ar y ffordd ni’n disgrifio yr angen am sgiliau Cymraeg yn ein deunydd recriwtio ni. 

Ein gobaith yw y bydd hyn yn gyd yn sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn gorff cynhwysol a chroesawgar o safbwynt yr iaith Gymraeg ac y gallwn arwain y ffodd yn hyderus at 2050.