Llun o arwyddion siop Aldi

Mae Aldi wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae pedwerydd groser mwyaf Cymru wedi cael ei gydnabod am ei ymrwymiad i gyflwyno'r Gymraeg ym mhob un o'i siopau ledled Cymru, ac o’i dderbyn, dyma hefyd y canfed sefydliad i’w dderbyn ers i’r rhaglen gychwyn.

Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol. Mae’n cefnogi cynllun tymor hir y Comisiynydd i sicrhau y gall pobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg ymhob agwedd o’u bywydau, ac ar draws Cymru.

Mae Aldi wedi buddsoddi yn y defnydd o’r Gymraeg mewn nifer o ffyrdd mewn mwy na 50 siop yng Nghymru gan gynnwys;

  • Cyhoeddiadau hunan-dalu a dangosfeydd yn ddwyieithog
  • Arwyddion mewn siopau yn Gymraeg neu'n Gymraeg ac yn Saesneg
  • Gweithwyr sydd yn medru’r Gymraeg yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith a theitlau eu swyddi yn arddangos yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Taflenni / deunyddiau marchnata ar gyfer siopau newydd wedi'u hargraffu yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Cyhoeddiadau sy'n hysbysu cwsmeriaid am agor a chau tiliau yn ddwyieithog
  • Cynnyrch Cymreig brand eu hunain i gael deunydd lapio dwyieithog, gan gynnwys llaeth, menyn, caws a chig

Dywedodd Dan Oakenfull, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Aldi: "Mae'n bwysig i Aldi fod yn rhan o'r gymuned leol a bod yn fanwerthwr cynhwysol i bob cwsmer ledled y DU. Rydym yn angerddol am y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt ac rydym am hyrwyddo’r pethau sydd bwysicaf i'n cwsmeriaid.

"Mae hyn yn cynnwys chwilio am ffyrdd o ymgorffori'r Gymraeg yn y siopau hyn i gynnal treftadaeth cymunedau yn ogystal â chefnogi'r gwerthoedd sydd gan ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid."

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ei bod yn hynod o falch o ymrwymiad Aldi, "Rydym yn gyffrous iawn i allu dyfarnu’r Cynnig Cymraeg i Aldi ac yn falch o’u cefnogaeth i’n hymdrechion i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.

"Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fusnesau godi ymwybyddiaeth o'u gwasanaethau Cymraeg ac a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg.

"Wrth longyfarch Aldi ar ei lwyddiant, hoffwn annog sefydliadau tebyg eraill i weithio gyda ni i ddatblygu a gwella eu Cynnig Cymraeg."

DIWEDD

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.