Nodiadau
Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes i’w argymhellion.
Mae angen defnyddio cysylltnodau oherwydd bod y fannod (y/yr) yn dod o flaen elfen olaf unsill yr enw; defnyddir cysylltnodau cyn ac ar ôl y fannod er mwyn dangos yr elfennau unigol a hwyluso ynganiad.