Nodiadau
Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ‘ffurf Gymraeg’ a'r ‘ffurf Saesneg', gan dueddu at y ‘ffurf Gymraeg’. Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau'r Priffyrdd.
Defnyddir cysylltnodau er mwyn cynorthwyo ynganiad drwy ddangos pan nad yw'r brif acen yn syrthio ar y goben (y sillaf olaf ond un). Fodd bynnag, mae’r enw hwn yn syrthio i’r categori o enwau sy’n eithriadau sydd wedi ennill eu plwyf, e.e. Caerdydd a Pontypridd.
