Nodiadau
Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr
o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros
fynd yn groes i’w argymhellion.
Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy
o wahaniaeth rhwng y ‘ffurf Gymraeg’ a'r ‘ffurf Saesneg', gan dueddu at y ‘ffurf
Gymraeg’. Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau'r Priffyrdd.