Nodiadau
Y ffurf Saesneg ar yr enw hwn yw Dunvant. Yn Gymraeg, mae defnydd ar ddwy ffurf: Dyfnant a Dynfant. Er mai Dynfant yw ffurf y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd/A Gazetteer of Welsh Place-Names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967), Dyfnant yw’r ffurf Gymraeg a ddefnyddir gan amlaf yn lleol erbyn hyn.
Er hynny, mae Dynfant hefyd yn ffurf safonol y gellid ei defnyddio o hyd a byddai’n gamarweiniol meddwl amdani fel ffurf sydd wedi datblygu dan ddylanwad y Saesneg. Yn wir, mae lle i gredu bod y ffurf Saesneg, Dunvant, wedi datblygu yn sgil y ffurf Gymraeg, Dynfant.
Mae Dynfant yn enghraifft ddifyr o’r arfer gyffredin ar lafar yn Gymraeg o gyfnewid y cytseiniaid fn a nf. Ceir enghreifftiau tebyg o Dyfnant yn troi’n Dynfant yn hanesyddol ar draws de-orllewin Cymru, yn Aberdynfant (Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin), Cwmdynfant (Tirabad, Sir Frycheiniog) a Craig Dynfant (Cwmteuddwr, Sir Faesyfed), er enghraifft. Mae’r cyfnewid cytseiniaid yma’n digwydd mewn enwau lleoedd eraill hefyd fel yn Llyfni > Llynfi (Sir Frycheiniog) neu Llyfnell > Llynfell (Sir Forgannwg). Mae’r dystiolaeth hanesyddol yn awgrymu mai Dynfant oedd y ffurf lafar arferol yn y Gymraeg yn y 19g ac o leiaf gyfran o’r 20g, ac mae’n dal i gael ei defnyddio gan rai heddiw.
