Nodiadau
Y fannod
Nid yw’r fannod (y/yr) yn cael ei hystyried yn rhan annatod o’r enw hwn ac nid yw’n cael ei harddel o flaen yr enw hwn ym mhob cyd-destun. Fodd bynnag, mae ei hôl hi’n dal i’w weld ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg gan na threiglir yr enw yn unol â phatrymau arferol y Gymraeg. Er mwyn osgoi’r treiglad mewn cyd-destunau Cymraeg ysgrifenedig, gellid defnyddio’r fannod o flaen yr enw mewn brawddeg, e.e. ‘yn y Dryslwyn’ neu ‘mynd i’r Dryslwyn’. Nid oes angen defnyddio’r fannod Gymraeg na Saesneg mewn cyd-destunau Saesneg.