Nodiadau
Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes i’w argymhellion. Mae’r acen grom yn hanfodol er mwyn sicrhau ynganiad cywir. Mae angen defnyddio cysylltnodau oherwydd bod y fannod (y/yr) yn dod o flaen elfen olaf unsill yr enw; defnyddir cysylltnodau cyn ac ar ôl y fannod er mwyn dangos yr elfennau unigol a hwyluso ynganiad. |
