Nodiadau
Dyma ffurf y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd/A Gazetteer of Welsh Place-Names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes iddo.
Fodd bynnag, mae'r Panel yn cydnabod yr arfer yn lleol i ddefnyddio'r ffurf Cefn-coed mewn rhai cyd-destunau. Dylid nodi bod angen ysgrifennu’r enw hwn yn un gair â chysylltnod i gynorthwyo ynganiad gan ei bod hi’n arferol ysgrifennu enw anheddiad yn un gair er mwyn gwahaniaethu rhwng aneddiadau a nodweddion tirweddol.
