Nodiadau
Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes i’w argymhellion.
Daw’r enw hwn o’r Ffrangeg Normanaidd beau marais (gwern hardd). Mae’r ffurf Gymraeg Biwmares yn dyddio o’r 14eg ganrif ac yn un ddiddorol o ran ei ddatblygiad â’r Biw- yn nodweddu’r ynganiad Ffrangeg yn yr Oesoedd Canol. Cymharer â Beaulieu yn Hampshire, Bewley yn Swydd Gaerwrangon a’r gair Saesneg beauty. Noder bod y terfyniad -es yn Biwmares yn ddatblygiad o’r -ais yn marais ac nid o’r -is yn Beaumaris.
