Blog Cynnig Cymraeg Mind

Elusen yw Mind sydd yn cefnogi pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Maent yn ceisio sicrhau fod y bobl hyn yn cael y gefnogaeth a'r parch y maent yn eu haeddu. Mae Mind yn cefnogi siaradwyr Cymraeg drwy ddarparu adnoddau, gwybodaeth a chefnogaeth Cymraeg iddynt.

Plant yn gorweddian

Darllenwch am wasanaethau Cymraeg Mind isod.

  • Pa mor bwysig yw hi eich bod chi fel sefydliad yn gallu cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg?

Mae'n bwysig iawn fod Mind yn gallu cynnig gwasanaethau Cymraeg. Mae ein holl wybodaeth iechyd meddwl i bobl ifanc a’r wybodaeth sydd yn cael ei ddarllen fwyaf gan oedolion ar gael yn Gymraeg. Mae ein gwasanaethau ar draws Cymru gyfan ar gael yn ddwyieithog a gall ein hymgyrchwyr ymgyrchu yn y Gymraeg neu Saesneg. Mae’r iaith yn ganolog i’r sefydliad, er ein bod yn gwybod bod gennym fwy i’w wneud.

  • Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?

Gall pobl gael mynediad at wybodaeth neu ymgyrchu drosom yn yr iaith y maen nhw’n ei dewis, felly rydym yn gwybod y bydd y wybodaeth a’r gefnogaeth yn cael mwy o effaith.

  • Fyddech chi'n annog elusennau eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg?

Bendant. Mae’r Cynnig Cymraeg wedi bod yn allweddol o ran rhoi cyfeiriad, atebolrwydd ac rydym wedi gallu cynnwys ein cydweithwyr yng Nghymru a Lloegr yn y gwaith. Mae’r cwestiwn ‘a oes angen i hwn fod ar gael yn y Gymraeg?’ bellach yn cael ei ofyn yn aml ac yn gynnar mewn prosiectau.

Block background image

Darganfod mwy am y Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg