Mae gweithleoedd yn flaenoriaeth strategol i Gomisiynydd y Gymraeg gan eu bod yn cynnig cyfleoedd naturiol i ddefnyddio’r Gymraeg, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Mae hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at nod Cymraeg 2050 i gynyddu defnydd dyddiol o’r iaith. Pwrpas y gweithdy yw dangos sut y gall eich sefydliad gefnogi’r nod hwn. Byddwn yn rhannu trosolwg o’r theori newid a gomisiynwyd gan y Comisiynydd ac yn trafod sut gallwch chi ei ddefnyddio i ymateb i ofynion Safonau’r Gymraeg wrth lunio polisi ar ddefnydd mewnol. Bydd y sesiwn yn rhoi gwybodaeth a dulliau i’ch helpu i symud eich sefydliad ar hyd y continwwm defnydd iaith, gan gefnogi’r gweithlu cyfan.
Cynnwys y gweithdy
Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol, gyda chyfle i drafod a rhannu syniadau. Byddwn yn ystyried:
- Beth yw’r theori newid a sut i’w defnyddio i ddatblygu polisi defnydd effeithiol.
- Rhwystrau a hwyluswyr defnydd iaith, a’r adnoddau sydd eu hangen.
- Sut i greu cynllun neu bolisi fydd yn cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Sut i fonitro a mesur cynnydd.
- Technegau ymarferol i’w gweithredu yn eich sefydliad.
Mae’r sesiwn yn addas i sefydliadau sy’n gweithredu safonau’r Gymraeg. Mae niferoedd yn gyfyngedig. I archebu lle, cwblhewch y ffurflen isod.
Caiff y wybodaeth a roddir gennych ei phrosesu gan Gomisiynydd y Gymraeg a fydd yn ei phrosesu yn unol â gofynion GDPR y DU a’r Ddeddf Diogelu Data. Mae rhagor o wybodaeth ar sut y caiff data personol ei brosesu ar gael yn Hysbysiad Preifatrwydd Comisiynydd y Gymraeg.