Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb. Mae cynyddu’r defnydd o’r iaith o fewn eich sefydliad yn gyfle i greu diwylliant lle mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o waith bob dydd – ac mae gan bawb ran i’w chwarae yn y daith honno.
Pwrpas y canllaw hwn yw rhoi arweiniad i sefydliadau ar sut i gyfathrebu eu gweledigaeth ynglŷn â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol gyda’r gweithlu.
Mae’r canllaw hwn wedi ei ddatblygu ar sail theori newid mae swyddfa’r Comisiynydd wedi ei greu sy’n amlinellu sut mae gweithredu mewn gwahanol feysydd yn gallu arwain at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg dros amser.
Mae templedi modelau polisi ar gael hefyd sy’n rhoi strwythur i sefydliadau ddilyn er mwyn creu polisi defnydd mewnol o’r Gymraeg fydd yn cynyddu defnydd o’r iaith ymysg y gweithlu, ac yn cydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg.
Er bod gofynion statudol ar sefydliadau cyhoeddus i greu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, mae’r neges bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yn berthnasol i bob sector, ac mae gwerth i bob math o sefydliad gael cynllun ar sut i gyfathrebu am y Gymraeg gyda staff.
Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’r camau i greu cynllun cyfathrebu mewnol effeithiol ar gyfer eich sefydliad.