Siarter Rhianta Corfforaethol

Pobl ifanc yn gweithio gyda'i gilydd o amgylch bwrdd mewn ystafell ddosbarth

Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i Siarter Rhianta Corfforaethol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae’r Siarter yn ddatganiad clir o ymrwymiad sefydliadau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn gofal neu wedi profi gofal.

Fel Rhiant Corfforaethol, rydym yn addewid cyflawni’r canlynol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal:

  • Byddwn yn ymroi i wrando ar yr holl blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a sicrhau bod eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau’n cael eu clywed a’u hystyried yn llawn wrth i benderfyniadau sy’n effeithio arnynt gael eu gwneud.  
  • Byddwn yn trin pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal gyda pharch.  
  • Byddwn yn cynnwys pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanynt.  
  • Byddwn yn rhoi gwybod i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal am yr hyn sy’n digwydd a pham.  
  • Byddwn yn defnyddio iaith syml wrth gyfathrebu â phob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal.  
  • Byddwn yn dangos cydymdeimlad wrth ystyried anghenion pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal.  
  • Byddwn yn gweithio gyda phob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal i’w helpu i gyflawni ei nodau.  
  • Byddwn yn rhoi gwybod i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal am y broses o gyflwyno cwyn os ydynt yn teimlo nad ydym yn cadw at y siarter hon.  
  • Byddwn yn rhoi gwybod i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal am yr hawl i gael gwasanaeth eiriolaeth annibynnol i sicrhau bod eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau’n cael eu clywed wrth i benderfyniadau gael eu gwneud neu pan mae’r unigolyn yn anhapus ac eisiau i rywbeth stopio, ddechrau neu newid. 

Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo yn benodol i’r egwyddorion canlynol a dyma grynodeb o sut byddwn yn rhoi hynny ar waith: