- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen‑y‑bont ar Ogwr gyhoeddi dogfen ymgynghori ar newid polisi cludiant ysgol. Yn dilyn hynny fe wnaethom dderbyn cwyn yn honni nad oedd y Cyngor wedi ystyried, yn y ddogfen, effaith y cynigion ar y Gymraeg, a hynny yn groes i’r hyn sydd yn ofynnol o dan safonau’r Gymraeg.
Yn ein hymchwiliad fe wnaethom ystyried cynnwys y ddogfen ymgynghori Teithio gan Ddysgwyr, a oedd yn amlinellu pump o gynigion posibl ar gyfer newid y polisi, ynghyd â’r cwestiynau a ofynnwyd drwy arolwg digidol, a’r dystiolaeth a’r dogfennau ychwanegol a ddarparwyd gan yr achwynydd a’r Cyngor.
Fel rhan o’r ymgynghoriad, roedd y Cyngor wedi cynnwys cwestiynau penodol yn gofyn am farn y cyhoedd ar effeithiau posibl y cynigion ar y Gymraeg. Nodwyd hefyd, fel rhan o’n hymchwiliad, fod Asesiad Effaith ar y Gymraeg wedi’i gwblhau gan y Cyngor ym mis Mawrth 2024.
Fodd bynnag, er bod yr asesiad wedi’i gwblhau cyn lansio’r ymgynghoriad, ni chafodd ei rannu gyda’r cyhoedd na’i gynnwys yn y ddogfen ymgynghori. O ganlyniad, ni chyflwynwyd ystyriaethau’r Cyngor o effeithiau posibl y cynigion ar y Gymraeg fel rhan o’r ymgynghoriad. Er bod y cyhoedd felly wedi cael cyfle i roi eu barn ar yr effeithiau posibl, nid oedd ganddynt wybodaeth ddigonol am asesiad y Cyngor ei hun i’w galluogi i ystyried y mater yn llawn ac ymateb yn ystyrlon i’r ymgynghoriad a’r cwestiynau a ofynnwyd.
Yn dilyn ein ymchwiliad fe wnaethom ddyfarnu fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â safonau’r Gymraeg ac yn benodol safonau 91, 92 a 93.
Wrth gyhoeddi ein dyfarniad, rydym wedi nodi camau pellach y mae’n ofynnol i’r Cyngor eu cymryd er mwyn sicrhau gwelliant parhaus a chydymffurfiaeth gynaliadwy. Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma.
Cyhoeddir yr eitem newyddion hon er mwyn cyflawni'r cam gorfodi a osodwyd, dan adran 77(3)(c) o Fesur y Gymraeg, i roi cyhoeddusrwydd i fethiant y Cyngor i gydymffurfio ac i gyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad.