- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Yn dilyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg (y Comisiwn), Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg, datganodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Lowri W. Williams ei chefnogaeth i’r argymhellion ac i barodrwydd y Llywodraeth i weithredu yn eu sgil.
“Yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad 5 mlynedd oedd yn cynnig darlun cynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg ar hyn o bryd ac yn nodi argymhellion penodol ar gyfer y dyfodol. Roedd yn braf gweld y Comisiwn yn ei adroddiad yn adleisio nifer o’r galwadau hynny a’r Llywodraeth yn awr yn cefnogi’r galwadau hynny ymhellach.
“O’n safbwynt ni, mae’n galonogol gweld cydnabyddiaeth i bwysigrwydd y strategaethau hybu fel offeryn i gryfhau cynllunio ieithyddol ar lawr gwlad. Mewn cynhadledd ddiweddar a drefnwyd gennym i drafod rôl y strategaethau hybu roedd teimlad gwirioneddol gref y gallai’r rhain wneud gwahaniaeth sylweddol i dwf yr iaith yn ein cymunedau o’u gweithredu’n briodol ac o gael yr adnoddau angenrheidiol.
“Roeddem yn falch hefyd o weld cydnabyddiaeth i bwysigrwydd chwaraeon er mwyn sicrhau twf yr iaith Gymraeg yn gymdeithasol. Daeth hyn yn amlwg mewn gwaith ymchwil y gwnaethom ni ei gyhoeddi llynedd oedd yn ystyried y defnydd o'r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc. Mae’n amlwg fod gan chwaraeon rôl bwysig i’w chwarae ac rydym wedi eisoes wedi cynnal cyfarfodydd bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid er mwyn gwthio’r gwaith hwn ymhellach.
“Rydym yn gytûn gyda’r Comisiwn fod gweithleoedd yn llefydd strategol bwysig o safbwynt hybu’r Gymraeg ac mae’n dda gweld y Llywodraeth yn nodi ei hawydd i fynd i’r afael â’r maes pwysig hwn.”
“Er mwyn cynorthwyo ymhellach gyda’r gwaith yn y cyfnod nesaf rydym wedi paratoi dogfennau cyngor ar gyfer y Llywodraeth sydd yn manylu ar ein meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys y rhai a nodir uchod. Ein gobaith yw y bydd y trafodaethau dilynol yn cael eu hadlewyrchu yn strategaeth Cymraeg 2050 ddiwygiedig y Llywodraeth.
“Fel sydd yn cael ei bwysleisio yn gyson yn yr ymateb, mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd a dim ond drwy gydweithio yn gadarnhaol y gallwn sicrhau dyfodol tymor hir a llewyrchus i’r Gymraeg. Rwyf i a fy swyddfa yn edrych ymlaen at gyfrannu yn ymarferol at weithredu yr argymhellion er lles yr iaith Gymraeg.”
Gallwch ddarllen ymateb y Llywodraeth yn llawn drwy ddilyn y ddolen hon i’w gwefan.