- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mewn cynhadledd yn Llandrindod heddiw (Mawrth, 16 Mehefin) bydd cymdeithasau tai yn cael y cyfle i ddeall yn well yr hyn y bydd gofyn iddynt wneud wrth i’r sector dai ddod o dan Safonau’r Gymraeg. Y sector hon yw’r diweddaraf i ddod o dan y Safonau yn dilyn cymeradwyaeth gan Senedd Cymru.
Yn y gynhadledd bydd cyfraniadau gan sefydliadau sydd eisoes yn gweithredu’r Safonau yn ogystal â chyflwyniadau gan aelodau o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg fydd yn amlinellu’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael ar hyd y daith.
Y bwriad, yn ôl Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio, yw sicrhau fod pawb yn glir o’r dyletswyddau statudol,
“Rydym yn croesawu’r cam diweddaraf hwn o ddod â’r sector dai, sydd yn darparu gwasanaethau allweddol ar draws Cymru, o dan ddarpariaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
“Rydym yn ymwybodol fod yna amrywiaeth sylweddol yn y gwasanaethau Cymraeg gaiff eu darparu gan y cymdeithasau tai ar hyn o bryd. Ein nod gyda’r gynhadledd heddiw yw sicrhau bod dealltwriaeth glir o ofynion y Safonau, a bod y sector yn paratoi yn effeithiol at gydymffurfio. Gallwn wedyn ddatblygu ffyrdd penodol o gefnogaeth wedi eu teilwra i anghenion y sector.
“Nod y Safonau yw sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, gyda’r bwriad o arwain at well gwasanaethau a chynnydd gwirioneddol yn y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.
“Mae’n braf nodi fod yr awydd yno ar draws y sector i wella’r ddarpariaeth Gymraeg, ac edrychwn ymlaen i gydweithio gyda’r sector wrth i’r Safonau gael eu rhoi ar waith.”
Cartrefi Cymunedol Cymru yw'r sefydliad aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai. Dywedodd dirprwy brif weithredwr y sefydliad, Clarissa Corbisiero,
"Mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo i gyfathrebu â phobl yn eu dewis iaith ac maent yn awyddus i gydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg i weithredu Safonau'r Gymraeg yn effeithiol. Mae'r digwyddiad hwn heddiw yn gyfle defnyddiol a phwysig er mwyn gallu trafod y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau."
Cynhelir y gynhadledd yn Llandrindod heddiw, Mawrth 16 Mehefin.