Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno tystysgrif Cynnig Cymraeg i Undeb Rygbi Cymru

Heddiw, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru gyfres o fentrau newydd cyffrous i wella'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y sefydliad a dyfarnwyd statws 'Cynnig Cymraeg' iddo gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar sail hynny. 

Ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, cyhoeddodd Prif Weithredwr dros dro URC, Nigel Walker, Bolisi Iaith Gymraeg diwygiedig yr Undeb, sy'n ymrwymo i gynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth a gynigir i'r cyhoedd. 

Bydd prif gyhoeddiadau'r Undeb, gan gynnwys y prif ddatganiadau i'r wasg, adroddiadau gemau rhyngwladol a straeon newyddion mawr eraill ar gael yn Gymraeg a Saesneg a bydd cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn fewnol hefyd yn cael ei argymell a'i annog. 

Mae ymrwymiad cadarn i arwyddion newydd a pherthnasol o amgylch Stadiwm Principality fod yn ddwyieithog a bydd cyhoeddiadau a chyfathrebiadau eraill a gynhyrchir gan URC, gan gynnwys rhaglenni gemau rhyngwladol ac amrywiaeth o ddarpariaeth ar-lein, yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.  

Dywedodd Nigel Walker Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru:  

"Mae ystyried a hyrwyddo'r Gymraeg ym mhopeth a gynigiwn i'n cyhoedd yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl.  

"Byddwn yn gwella ein darpariaeth a'n gwasanaethau ac yn croesawu'r cyfleoedd newydd y bydd hyrwyddo'r Gymraeg yn eu cynnig i ni a'n cefnogwyr." 

Cafodd ymrwymiad URC i wella ei ddarpariaeth Gymraeg ei gydnabod yn ffurfiol yn lansiad y polisi newydd heddiw gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gan iddo dderbyn statws 'Cynnig Cymraeg'.  

Mae'r 'Cynnig Cymraeg’ yn gydnabyddiaeth gan y Comisiynydd a roddir i sefydliadau sydd â chynllun cryf sydd wedi ymrwymo i wella eu hymgysylltiad â'r cyhoedd drwy ddangos pa mor falch ydyn nhw o gynnig gwasanaethau yn Gymraeg. 

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg:  

“Hoffwn alluogi mwy o bobl i ddefnyddio’u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Er mwyn sicrhau hynny mae angen i’r Gymraeg gael ei chlywed yn naturiol ymhobman, boed hynny yn gymunedol, yn y maes celfyddydol ac wrth gwrs yn y byd chwaraeon. Mae Undeb Rygbi Cymru yn chwarae rhan fawr ym mywyd Cymru – ac rwy’n croesawu’n fawr yr ymrwymiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw i’r Gymraeg. Rwy’n arbennig o falch o allu rhoi cymeradwyaeth i’w Cynnig Cymraeg, ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Undeb wrth i’w cynlluniau gael eu datblygu.”     

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd yn gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg i’w staff. 

Bydd y Ganolfan Genedlaethol yn darparu cyrsiau wedi’u teilwra, dan arweiniad tiwtor, i dros 100 o aelodau staff sydd wedi dweud eu bod nhw eisiau dysgu’r iaith neu gryfhau eu sgiliau Cymraeg.  Bydd hyfforddiant ar wahanol lefelau dysgu, o ddechreuwyr i godi hyder, a bydd modd i staff gael mynediad at dros 1,500 o adnoddau dysgu digidol rhad ac am ddim a ddatblygwyd gan y Ganolfan. 

Bydd sesiwn flasu rad ac am ddim, ar thema rygbi, yn cael ei chynnal yn rhithiol gan y Ganolfan Genedlaethol ar 6 Medi, fel rhan o’r fenter newydd.  Mae’r sesiwn yn agored i bawb ac mae mwy o fanylion ar wefan y Ganolfan, dysgucymraeg.cymru

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: 

“Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn falch o weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i greu cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn ystod y cyfnod yn arwain at Gwpan Rygbi’r Byd, a thu hwnt. 

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae croeso i bawb ddysgu’r iaith gyda ni.  Byddwn yn datblygu rhaglen benodol o hyfforddiant i gefnogi dysgwyr o’r gymuned rygbi, a dan ni’n edrych ymlaen hefyd at gefnogi tîm rygbi Cymru dros y misoedd nesaf.”