Llandudoch

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn agosáu ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn Llantwd am yr wythnos. Gobeithio y cawn gyfle i sgwrsio â llawer ohonoch ar ein stondin.

Yn ychwanegol i’r cyfleoedd bob dydd i chi ddod i siarad gyda’r staff, rhyngweithio gyda’n map enwau lleoedd a gofyn unrhyw gwestiynau, bydd gyda ni weithgareddau arbennig hefyd ar y stondin ac o gwmpas y maes.
Ar y dydd Sadwrn cyntaf beth am ddod i fwynhau gweithdy a stori i blant gyda Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen ac yna bydd sesiwn greadigol stori-a-llun gyda Llinos Mair.

Mewn digwyddiad ar fore Llun, 3 Awst am 11 yn y Cymdeithasau, bydd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg yn nodi deng mlynedd ers i safonau’r Gymraeg ddod i rym gan edrych yn ôl ar effaith drawsnewidiol y Safonau dros y cyfnod hwnnw. Yn ymuno â’r Comisiynydd bydd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan AS, a fydd yn rhannu ei safbwynt ar gyfraniad y Safonau i uchelgeisiau’r Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg ac yn trafod y cyfleoedd sydd o’n blaenau ar gyfer eu datblygu yn y dyfodol. 


O dan gadeiryddiaeth Nest Jenkins bydd trafodaeth banel yn dilyn a fydd yn gyfle i wyntyllu galwadau’r Comisiynydd ac ystyried sut  y gellir sicrhau bod y Safonau yn parhau i sbarduno newid cadarnhaol ar draws Cymru.


Ddydd Mawrth bydd Ant Evans yn sôn am ei lyfr newydd a gaiff ei gyhoeddi ar y diwrnod hwnnw, ac ar fore Mercher beth am ddod draw i gael sgwrs gyda chynrychiolwyr o gwmni recriwtio PENODI tra yn y prynhawn bydd sesiwn hwyliog CISTEDDFOD, sydd wedi ei sbarduno gan ddyfodiad Eisteddfod y Garreg Las i’r sir, cyfle i’r plant archwilio arteffactau, chwarae rôl a gweithio’n greadigol.
Yna dydd Gwener bydd Ombwdsmon Cymru ar y stondin – cyfle i chi ddod draw am sgwrs ac i ddarganfod mwy am ei gwaith.
 
Rhywbeth at ddant pawb, felly beth am alw draw i’n gweld – bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.