- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae Eisteddfod yr Urdd bron yma ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn sir Fôn am yr wythnos. Gobeithio y cawn gyfle i sgwrsio â llawer ohonoch ar ein stondin.
Byddwn yno o ddydd Sadwrn i ddydd Gwener. Yn ogystal â chyfleoedd bob dydd i chi ddod i siarad gyda ni, bydd gweithgareddau arbennig yn cael eu cynnig gan bartneriaid, yn sefydliadau cyhoeddus, busnesau ac elusennau.
Yn ystod y cyfnod cyn yr Eisteddfod, cadwch lygad am fideo newydd sbon ar ein cyfryngau cymdeithasol, yn cyflwyno ychydig o enwau lleoedd yn ardal yr Eisteddfod. Bydd map rhyngweithiol ar ein stondin i chi roi cynnig ar osod trefi a phentrefi Cymru yn y lle cywir.
Ar y penwythnos cyntaf dewch i fwynhau gweithgareddau wedi eu darparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyhoeddi gwaith ymchwil
Ddydd Llun, 25 Mai am 11 ar ein stondin bydd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, yn cyhoeddi canlyniadau ein gwaith ymchwil newydd. Holwyd dros 1,500 o fyfyrwyr addysg bellach ac uwch ar draws Cymru am eu barn ynghylch y cyfleoedd sy’n bodoli i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd. Croeso i bawb
Yna bnawn Llun dewch i glywed mwy am brosiect lleol Chwalu’r Mythau a dydd Mawrth bydd cyfle i fwynhau yn seiniau soniarus disgyblion ysgol uwchradd Bodedern.
Criw elusen GISDA fydd ar y stondin fore a pnawn Mercher (11 a 3.30) ac am 2.30 bydd gwasanaeth tân ac achub gogledd Cymru yn cynnal sesiwn diogelwch dŵr.
Bardd Plant Cymru fydd yn ymuno a ni ar y dydd Iau ac mae’r sesiwn honno mae’n siŵr am fod yn un hwyliog iawn – yn gymysgedd o sgwennu a thynnu lluniau.
Beth am alw draw i’n gweld felly? Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl ar ein stondin.